Tudalen:William-Jones.djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bychan. Cododd fore trannoeth yn llawn asbri, gan edrych ymlaen at yr ail berfformiad o'r "Messiah" y noson honno. Yna, ar ôl brecwast, aeth ef ac Arfon a Mot am dro i'r mynydd.

"Be' sy, Arfon?" gofynnodd ymhen tipyn.

"Beth ych chi'n feddwl, Wncwl?"

"'Waeth iti ddeud wrtha' i ddim. Mi wn i dy fod ti'n ymddangos yn reit hapus, ond ymddangos yr wyt ti."

"Odi 'Mam wedi gweud rhwbath wrthoch chi?"

"Naddo, ddim gair. 'Wyt ti wedi bod yn siarad hefo hi?"

"Diar, nagw' i."

"Be' sy'n dy boeni di, Arfon?"

"Slough, Wncwl. Ma' hirath ofnadw' arno' i am Fryn Glo."

"Oes, yr ydw i'n siŵr, fachgan."

"Dyw'r gaffar yn y gwaith ddim yn fy lico i o gwbwl, a ma' fa'n gneud 'i ora' i fi gal y sac. Ac am y lojin!

"Lle sâl i aros ydi o?"

"Ma' tri o' ni yno. Ma'r ddau arall mas bob nos, ond 'wy' i'n lico bod miwn yn darllen ne' sgfennu. 'Dŷm ni ddim miwn nes bo hi wedi 'wech, ond rhyw dân sy i fod i bara am ddwyawr sy 'na. 'Sech chi'n gweld 'i wyneb hi pan wy' i'n gofyn am ragor o lo! Tlawd yw'r bwyd hefyd—stwff tsiep a dim digon ohono fa. Wel, 'ych chi'n gwbod mor dda ma? Mam 'da bwyd."

"Fedri di ddim cael lle gwell i aros?"

"Dyma'r trydydd lle i fi fod ynddo fa. Ma' Slough yn llawn iawn, a 's dim llawer o amser 'da fi i drampo i wilo am lojin newydd. A ma' hwn yn siwto 'mhoced i."

"Wel, wir, fachgan . Ond ni wyddai William Jones beth i'w ddweud. Yr oedd miloedd o fechgyn fel Arfon mewn lleoedd fel Slough, a pha eiriau o gysur a allai rhywun fel ef eu cynnig iddynt?

"Sut mae'r ddrama'n dwad ymlaen, Arfon?"

Ysgydwodd y bachgen ei ben yn drist. "Ond 'wy'n darllan llawer, Wncwl, a 'falla', un diwrnod..."

"Efallai, un diwrnod"-curai'r tri gair yn ddi-baid ym meddwl William Jones am ddyddiau lawer. Gwelai hwy wedi eu hysgrifennu'n fras tros y cwm; tros y glofeydd tawel, segur; tros yr heolydd a'u tlodi; tros y siopau gweigion, caeëdig: llechent hefyd y tu ôl i londer "Shwmâi, bachan?" y gwŷr a gyfarfyddai ar yr ystryd neu yng Nghlwb y Di-waith,