Tudalen:William-Jones.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ei bwrs. Ond sylweddolodd mai "another sixpence gone west" fyddai'r stori.

"I haven't got change, Alf," meddai, "but if you will come with me up the road to the shop, I can get change there, yes?"

Gwgodd y tad, ond neidiodd y bachgen at y cynnig. Piti, yntê! meddai William Jones wrtho'i hun, gan daflu golwg ar ddillad carpiog ac ar wyneb a dwylo a gliniau budr y bychan wrth ei ochr; gwelai fod bodiau'i draed yn ymwthio drwy flaenau'i esgidiau tlawd. Ceisiodd siarad ag ef yn Gymraeg, ond ni wnâi'r bachgen ond edrych arno â llygaid mawr ac ofnus. Cyrhaeddodd y ddau siop fechan ar gongl yr ystryd.

"Sweets you like, isn't it?"

Nodiodd y plentyn, gan bwyntio at ryw erchyllterau lliwiog, pob un wrth goes bren, mewn blwch yn y ffenestr. Prynodd y chwarelwr ddau o'r rhai hynny iddo a dau orens a chwarter pwys o fisgedi. Yr oedd yn amlwg na wyddai'r bachgen fod y fath haelioni i'w gael ond mewn breuddwydion. "Stub Street," meddai Meri pan gyrhaeddodd ei brawd y tŷ ac adrodd yr hanes. Mingamodd, gan ysgwyd ei phen mewn anobaith cyn chwanegu, "Fel 'na yr ydw i'n cofio'r lle, hyd yn oed pan oedd pethau'n mynd yn iawn yma. Mae hi'n biti."

Llusgai'r dyddiau heibio. Rhoesai William Jones y gorau i chwilio am waith ers rhai misoedd, ac nid âi ef a Chrad am dro fel y gwnaethent yn yr haf. Crwydrent i lawr i Neuadd y Gweithwyr ac i Glwb y Di-waith yn bur selog, ond lladd amser yr oeddynt gan amlaf—a "mynd o'r ffordd." Ni chwynai Meri am yr oriau y'u ceid yn loetran yn y tŷ, ond gwyddent yr hoffai lonydd i yrru ymlaen â'i gwaith. Ni chyfarfyddai'r côr mwyach, ac araf treiglai ambell gyda'r nos heibio. Sgwrsio â Chrad am Lan-y-graig a'r chwarel neu â Meri am eu mam neu'r Hen Gron oedd prif adloniant William Jones ar y nosweithiau hynny, ond trawai draw i'r drws nesaf hefyd i wrando ar David Morgan yn adrodd am ei daith i America gyda'r côr, neu ar Idris yn sôn am ryw lyfr a ddarllenai. Ai hefyd i Glwb y Di-waith pan fyddai dadl neu gyngerdd yno. Yna, un noson yn niwedd Chwefror, galwodd Twm Edwards.

"Ma' nhw 'di gofyn i fi stejo dwy ddrama fach yn y capal," meddai, wedi iddynt gytuno bod y tywydd yn dal yn oer iawn.

"A 'wy'n moyn eich help chi, bois."