Tudalen:William-Jones.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r llety digysur yn Slough. Clywai sŵn llestri'n tincial yn y cyntedd.

"Nine o'clock," meddai'r Ysgotyn, Strachan wrth ei enw. "Porter makes a cup of tea for those who like one. Come on, one for the road !"

Ac uwch y gwpanaid o de adroddodd Arfon ei stori.

"Why don't you try and get in here?" oedd cwestiwn Strachan. "Best place in London. Nowhere like it. And very reasonable."

"But I'm not a Scotsman."

"That doesn't matter. It's a Club for young Scotsmen, but the founders made it a rule that there should be a sprink- ling of others-English, Irish, Welsh. See that fair-haired chap ? Irish. But I don't remember a Welshman here.

There's a laddie called Williams on the second floor, but he's from Aberdeen... Oh, Miss Campbell !"

Ysgrifenyddes y Clwb oedd Miss Campbell, gwraig dal a syth, braidd yn sarrug yr olwg. Daeth Arfon i wybod y cuddiai'r edrychiad llym dynerwch rhyfeddol. Yr oedd yn amlwg fod Strachan yn dweud ei stori ef wrthi.

"You wouldn't mind sharing, I suppose ?" gofynnodd y wraig i Arfon pan ddychwelodd y ddau ato. Eglurodd fod bachgen a gysgai'n un o dri mewn ystafell ar lawr uchaf yr adeilad yn bwriadu ymadael ddiwedd yr wythnos wedyn.

A hoffai ef gymryd ei le? Wyth swllt ar hugain yr wythnos oedd y pris am wely, brecwast, cinio gyda'r nos, tri phryd ddydd Sadwrn a phedwar ar y Sul. Amrywiai'r prisiau yn ôl maint a sefyllfa'r llofft, ond deallai hi oddi wrth Mr. Strachan mai am un o'r lleoedd rhataf y chwiliai ef.

Mawr oedd llawenydd Arfon, a diolchodd yn gynnes iawn iddi. Cludai ei bethau yno'r Sadwrn canlynol, meddai, ac edrychai ymlaen yn eiddgar at fyw yn y Clwb. Bu bron iddo â gweiddi "Sgotland for ever!" allan yn y stryd ar ei ffordd i ddal bws i orsaf Paddington.

Ac ni siomwyd ef yn y Clwb. "Y lle gorau yn Llundain" a ddywedasai Strachan wrtho, a gwir oedd y gair yn nhyb Arfon. Digonedd o ddŵr poeth bob amser ar gyfer y baddau, bwyd heb ei ail a hwnnw'n brydlon bob gafael, cwmni siriol a chyfeillgar, llyfrgell ddiddorol, ystafell dawel a chyffyrddus i ysgrifennu neu ddarllen ynddi, gwres unffurf drwy'r lle- a ellid gwell? A chyn bwysiced â dim arall, efallai, dihangfa