deimlo'n falch iddo brynu'r siocled iddi. Pe na hoffasai'r ferch, aethai â'r siocled adref i Eleri.
Bore trannoeth, galwodd William Jones yn y Llythyrdy i godi arian, ac araf oedd ei gam tuag adref.
"Be' sy, William?" gofynnodd Crad iddo wrth weled y golwg pell a dwys yn ei lygaid.
"Mae'n rhaid imi droi adra ddiwadd yr wsnos 'ma, fachgan."
"Y?"
"Rhaid. Mi wnes i lw i mi fy hun yr awn i'n ôl pan âi f'arian i i lawr i ugian punt."
"Ond 'falla ..." A thawodd Crad. "Falla' y daw gwaith yn reit fuan" a oedd ar flaen ei dafod, ond gwyddai mai geiriau gwag oeddynt. "'Tasat ti'n talu chweugain yn lle punt i ni, William ..."
"Punt ne' ddim, Crad.'
Ysgydwodd Crad ei ben: di-fudd fyddai dadlau unwaith eto ar y pwnc llosg hwnnw. Yr oedd hi'n biti hefyd, a byddai Eleri a Wili John bron â thorri'u calonnau. A theimlai ef a Meri hi'n o chwithig ar ôl yr hen William. Daria, petai o ddim ond yn cael job fach fel ... Fel beth?
"Be' wnei di yn Llan-y-graig, William?"
"Mynd yn ôl i'r chwaral, debyg iawn."
"Ia, ond ... hefo Leusa."
"O, derbyn cynnig Bob, fy mhartnar, a mynd i fyw ato fo.
'Rydw i'n reit ffond o Jane Gruffydd, ac mae Alun yr hogyn, a Dafydd, y bachgan arall, yn hogia' iawn, wsti."
Ni wyddai Crad beth i'w ddweud, a dewisodd ei ffordd arferol allan o bob anhawster. "Meri!" gwaeddodd, a phan ddaeth hi i lawr o'r llofft, torrodd y newydd iddi. Ond nid oedd ganddi hithau weledigaeth, dim ond awgrymu, fel y gwnaethai yntau, i'w brawd dalu chweugain yn lle punt yr wythnos iddynt.
"Na, 'does dim arall amdani," meddai William Jones.
"Ac i ddeud y gwir, mae arna' i dipyn o hiraeth am y chwaral a'r hen hogia' a'r Llan. Oes, wir, hiraeth go arw weithia'. Mi a'i ddydd Sadwrn."
Daeth y fasged wellt eto i'r golwg tua diwedd yr wythnos, a rhoes ei pherchennog ei feddiannau oll yn daclus ynddi. Ond ni chwarddai neb am ei ben y tro hwn; yn wir, yr oedd dagrau yn llygaid Eleri, ac er y ceisiai Wili John ymddangos