Tynnodd y gŵr tew amlen o'i boced, a dangosodd iddynt y cyfeiriad a oedd yn argraffedig ar y llythyr o'i fewn.
"British Broadcasting Corporation," meddai. Nodiodd y ddau.
"Trefor Jones yn ffaelu troi lan," chwanegodd.
"Y canwr?" gofynnodd Crad.
"Ia. A ma' nhw 'di gofyn i fi yn 'i le fa. Program sy'n mynd dros y byd i gyd."
"Ydach chi wedi bod yno o'r blaen?" gofynnodd William Jones.
"Gannodd o witha', bachan. 'Wy'n cal weiar o Gardydd 'na bob wthnos. Ma' nhw'n niwsans. Ond 'na fe!"
"Be' ydach chi'n ganu hiddiw?" oedd cwestiwn diniwed y chwarelwr.
"Rhaglen fach yn Gwmrag sy 'da fi 'eddi. 'Arafa, don' yw un o' nhw."
Rhythodd Crad ar y dyn, a ffrwydrodd "Y?" syfrdan o'i enau. "Solo i denor ydi honno," chwanegodd.
"Tenor wy'i," atebodd y llais a ddeuai, a barnu oddi wrth ei sŵn, o ddyfnder pob dyfnder.
Taflodd William Jones "Ydi, wir, diwrnod reit braf" i'r distawrwydd anghysurus.
Rhewodd y distawrwydd hwnnw rhyngddynt am weddill y daith, a rhyddhad i'r chwarelwr oedd cael camu o'r trên yng ngorsaf Caerdydd.
"Tyd, mi awn ni am dro o gwmpas y siopa', Crad," meddai allan ar yr heol.
"Diawch, mae'n rhaid ein bod ni'n edrach yn rhai dwl, William! Y tebot iddo fo! 'Sbïa arno fo! Mae'r cradur yn rhy dew i symud bron. Tenor, myn coblyn i! Os ydi'r bôi yna'n denor, mi ydw' inna'n ganeri. 'Does dim rhyfadd fod pobol yn cwyno am y stwff sy ar y weiarles 'na..."
"Tyd yn dy flaen."
Troesant i'r chwith ar hyd ffordd fawr lydan y tramiau, a rhyfeddai William Jones at brysurdeb a harddwch yr heol. Mor fawr a nobl oedd y siopau a'r sinemâu! Safodd wrth ymyl un sinema anferth i gael golwg ar yr hysbysiadau a'r darluniau yn y cyntedd a oedd fel plas gorwych ac ynddo golofnau tal. Diar, piti na châi Wili John ac yntau brynhawn yma hefo'i gilydd.
"Dacw fo eto! Y lemon!"