Tudalen:William-Jones.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan droi i mewn i'r gerddi o'i blaen. Eisteddasant ar un o'r seddau yno, yn ddau ŵr mud a phell. Hanner awr wedi pump, meddai'r cloc uwch Neuadd y Ddinas cyn hir.

"Hannar awr eto, Crad."

"Ia."

"Diar, mae Caerdydd 'ma yn lle hardd, fachgan!"

"Ydi."

"Roedd y dyn 'na welsom ni yn y Miwsïam yn un reit ddiddorol, ond oedd?"

"Oedd."

"Rhes dda o diwlips, yntê?"

"Ia."

"Cerrig Gorsadd ydi'r rhain o'n blaena' ni, mae'n debyg?"

"Ia, am wn i."

"Mae'r eiddew 'na sy'n tyfu trostyn' nhw yn rhoi rhyw olwg cynnas iddyn' nhw, ond ydi?"

"Ydi."

"A chochni'r cerrig 'u hunain, wrth gwrs."

"Ia."

Yr oedd gallt y sgwrs yn un go serth. Bu tawelwch hir.

"Dydwi ddim yn credu bod y dyn hwnnw welsom ni yn y trên yn ganwr o gwbwl, Crad. "Wyt ti?"

"Ydw'."

"Y?"

"Nac ydw'."

Agorodd William Jones ei "Delyn y Dydd."

"Be'ydi ystyr 'Ora Pro Nobis'?" gofynnodd.

"'Gweddïwch Trosom Ni'."

Chwarddodd y chwarelwr, gan feddwl mai ymgais at ddigrifwch oedd y cyfieithiad. Edrychodd Crad yn gas.

"Be' goblyn wyt ti'n chwerthin?" meddai. "Dyna oedd Arfon yn ddeud."

Pum munud o dawelwch, ac yna trawodd y cloc mawr chwarter i chwech.

"Mi awn ni'n ara' deg, Crad. Mae'n well inni fod yn rhy hwyr nag yn rhy fuan, ond ydi?"

"Y?" Yr oedd Crad yn gas eto.

"Yn rhy fuan nag yn rhy hwyr oeddwn i'n feddwl."

Tros y ffordd o'r Amgueddfa yr oedd y B.B.C., yn ôl Twm Edwards. Cerddodd y ddau yn araf heibio i'r lle, gan gymryd arnynt nad oedd ganddynt yr un diddordeb ynddo. Yn yr