Tudalen:William-Jones.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystafell ar y dde eisteddai ychydig o bobl wrth fyrddau bychain yn ymgomio ac yn yfed te, a daeth hwrdd sydyn o chwerthin o'r bwrdd agosaf i'r ffenestr. Gwgodd Crad tuag ato. Gwel- ent trwy'r ffenestr ar y chwith ddynion wrth beiriannau cyw- rain, a rhoes Crad ei law wrth ei foch. "Wyt ti'n siŵr nad ydyn nhw ddim yn bwriadu tynnu'n dannadd ni yn y lle 'na, William?" gofynnodd.

Troesant yn eu holau a cherdded yn dawel o ddewr tua'r porth. Daeth hwrdd arall o chwerthin o'r bwrdd wrth y ffenestr. Yn nrws yr adeilad safai gŵr mewn gwisg swyddogol â thair streip ar ei fraich. Sylweddolodd William Jones ymhen ennyd nad oedd Crad wrth ei ochr mwyach. Rhuthrodd ar ei ôl.

"Crad! Crad!"

"Mi fydda' i yn y stesion, William." Ac i ffwrdd ag ef fel gafr ar daranau.

Dangosodd y chwarelwr lythyr y gwahoddiad i ŵr y tair streip ac eglurodd fod Mr. Caradog Williams wedi ei daro'n wael gartref, yn wael iawn. Arweiniwyd ef i ystafell-aros, ac eisteddodd yn bryderus ar fin un o'r cadeiriau â'i het galed ar ei lin. Pum munud i chwech, meddai'r cloc. "Ia, wir," oedd sylw William Jones wrtho'i hun, a'i fysedd yn ceisio chwarae alaw ar gantel ei het.

Daeth gŵr ifanc i'r drws cyn hir.

"Mr. Caradog Williams?" meddai.

"No, he's ... he's ... can't come ...very ill."

"Mr. William Jones?"

"Yes, sir."

"Sut ydach chi, Mr. Jones?" Ac estynnodd ei law.

"Go lew, wir, thanciw. Mr. Lloyd?"

"Ia."

Eisteddodd y gŵr ifanc wrth ei ymyl.

"Gogleddwr ydach chi, yntê, Mr. Jones?"

"Ia, o Lan-y-graig, Sir Gaernarfon."

"Tewch! Un o Lan Dŵr ydw inna'. Ers faint ydach chi i lawr yn y Sowth 'ma?"

"Ers yn agos i flwyddyn bellach."

"Rydach chi'n dipyn o actor, yr ydw i'n dallt."

"Wel, nac ydw', wir, ond fod Meri, fy chwaer, yn meddwl fy mod i ar ôl imi actio mewn rhyw ddrama ym Mryn Glo cw. Ond 'wn i ddim mwy am actio na thwrch daear...