Tudalen:William-Jones.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o hyd bob tro yr âi ar gyfyl y meicroffôn, a mawr oedd amynedd Emrys Lloyd a'r swyddogion eraill lawer gwaith wrth geisio sicrhau'r oslef iawn neu'r pwyslais cywir. Ond cytunent fod mwy ym mhen William Jones nag a freuddwydiasent ar y cychwyn. Cadwai ei naturioldeb syml bob gafael, a rhoddai weithiau ryw arwyddocâd newydd, hollol annisgwyl, i ambell frawddeg. Nid oedd iddo un arlliw o'r "Actor" yn ôl syniadau Twm Edwards; ni thynnai ystumiau er mwyn eu tynnu. Pur gyfyng, fel y cofi, oedd cylch ei waith ar y radio—y dyn bach gwylaidd neu'r dyn bach ffwndrus bob tro—ond yr oedd, ym marn llawer, yn ddiguro fel cymeriad felly. Y feirniadaeth a glywais i amlaf oedd mai'r un un oedd ef ym mhob darllediad—fel Huw Parri, fel Ben Roberts, fel y milwr un- goes, ac efallai mai gwir y gair. William Jones oedd William Jones, ond dadleuai rhai fod hynny'n gryfder ynddo. Yn ffodus, adrodd ei hanes yw fy ngwaith i, nid ei amddiffyn na'i glodfori.

Ni chlywais i erioed farnau mor wahanol ar unrhyw bwnc dan haul. "Gwych! Rhyfedd o naturiol!" oedd sylw Mr. Rogers wrth ei wraig ar ôl gwrando ar "Y Chwarelwr." "Oples, bachan. 'Wy' ddim yn deall bois y B.B.C. 'na," meddai Twm Edwards wrth Shinc y bore trannoeth ar eu ffordd i godi tatws yn yr alotment. "Dim digon o snap," oedd dedfryd Jack Bowen. "Y tempo yn berffath, William," meddai David Morgan. Dywedai rhai iddo swnio'n rhy lenyddol, eraill fod ei acen Ogleddol yn rhy amlwg, rhai ... Ond ymlaen—neu yn ôl—â'r stori.

"Nid i briodas yr ydw i'n mynd, Crad," meddai William Jones, ar gychwyn i Gaerdydd i'r ymarfer cyntaf ar gyfer "Y Chwarelwr."

"Rwyt ti'n colli dy wallt yn o ddrwg, 'ngwas i," oedd ateb y gŵr â'r brwsh.

"Mynd yn hen, weldi. Mi fydda' i'n dair ar ddeg a deu- gain yr wsnos nesa."

"Taw, fachgan! Rhaid inni gael te-parti.

Reit, mi wnei di'r tro 'rŵan. Hannar munud, imi gael taro'r brwsh 'ma dros dy het di."

Aeth Crad gydag ef i'r orsaf, gan gerdded yn bur dalog. "Pwy ôn nhw'n feddwl ŷn' nhw?" gofynnodd Twm Edwards i'r hysbyslen a ddarllenai y tu allan i Neuadd y Gweithwyr. Gan fod y rhan fwyaf o'r rhaglen wedi'i recordio ymlaen