Tudalen:William-Jones.djvu/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eisteddfodau? Yn America, yn briod a chanddi hithau, fel Ted, ddau o blant. Yn America! Tewch, da chi!

"Odych chi'n 'nabod Dai Morgan sha Bryn Glo 'na?" gofynnodd y tad.

"Rargian, ydw'. Byw drws nesa' iddo fo, ac yn perthyn i'w gôr o."

"Bachan! Cofiwch fi ato fa—Jim Hwals, yr arweinydd côr gora' yng Nghymru, gwedwch chi wrtho fa. A gwedwch fod 'da fi gystal côr ag ariôd, er bod hanner cant o'r dynon mas o waith. A gofynnwch a odi fa'n cofio'r got ros i iddo fa a'i dicin côr yn Nhre Glo? 'Na wep odd 'da Dai y nosweth 'onno, w!"

Gwrthododd William Jones aros i swper yn nhŷ Ted Howells. Pryderai am Grad, meddai, ond mynnodd Olwen iddo gymryd cwpanaid yn ei law cyn cychwyn. Brysiodd o'r orsaf ym Mryn Glo, a phwy a welai y tu allan i siop yr Eidalwr ond Wili John.

"Sut mae dy dad?" gofynnodd.

"Ma' fa mas."

"Ond 'roedd y Doctor. ... Mas ymh'le?"

"Yn nhŷ Gomer, 'wy'n credu."

"Wyt ti wedi prynu da-da at 'fory, 'ngwas i?"

"Na lle 'wy' i'n mynd 'nawr."

"Hwda. Tyd â rhai i minna'. Y rhai mint hynny."

"O.K."

Aeth William Jones yn syth i dŷ Shinc. Yno, yn y parlwr anhrefnus, dadleuai Crad na wyddai'r Comiwnyddion y gwahaniaeth rhwng trefn ac anhrefn. Yr oedd Shinc ar ei draed a'i ddyrnau yn yr awyr i wneud ei ddadleuon yn gliriach. Tybiai'r chwarelwr mai ei ddifyrru ei hun yr oedd Crad, ond ofnai iddo ddewis ffordd nad ystyriai'r meddyg yn fendithiol. Tawelwch a gorffwys fuasai ei gyngor ef.

"Ddaru'r Doctor alw pnawn 'ma, Crad?"

"Naddo, wir, William. 'Ddaeth y cradur ddim yn agos."

"Ond 'doeddat ti ddim i godi nes iddo fo dy weld di."

"Os ydi'r bôi yn meddwl fy mod i'n mynd i aros yn fy ngwely i'w blesio fo, mae o'n gwneud coblyn o gamgymeriad.

Be' 'tai o ddim yn galw am fis?"

"Ond gorffwys ddeudodd o, Crad."

"Gorffwys! Mi gysgis i drwy'r pnawn, ond ar ôl te dyma fabi Nymbar Wan—plentyn Sali Dew—yn sgrechian digon i fyddaru'r meirw, a rhyw gathod goblyn yn ffraeo yn y cefn