Tudalen:William-Jones.djvu/178

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond unigolion oeddynt. Ymh'le, ynteu, yr oedd cryfder y genedl? Ni roddai Crist fawr o hanes y Samariad hwnnw, ond hoffai'r pregethwr feddwl amdano fel gŵr a fagwyd gan rieni duwiol a charedig ar aelwyd grefyddol. Hoffai gredu iddo wrth gynorthwyo'r truan hwnnw, yn reddfol bron, heb resymu'r peth o gwbl, gyfieithu ei ffydd i weithredoedd. Trigai ef, Mr. Rogers, mewn cwm â'i bobl yn awr yn dlawd ac archolledig, ond gwelai bob dydd ysbryd caredig y "cymydog" a ddarluniasai'r Gwaredwr. Cymwynasgarwch a charedigrwydd—filoedd o weithiau y rhyfeddasai atynt yn y cwm hwn lle'r oedd ef yn fugail. Ond yn awr, yn y dyddiau blin, yr oedd y rhinweddau hyn yn rhan o'u bywyd, bron mor naturiol â'r lliwiau mewn gardd neu'r murmur yn llif yr afonig. "Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri?" Efallai. Ond fe wyddai fod yn y rhannau o Gymru a adwaenai ef bobl garedig a thrugarog, gwŷr a gwragedd syml, di-lol, nad aethant y tu arall heibio. Unwaith, flynyddoedd pell yn ôl, canodd bardd o Iddew folawd pêr i enwogion ei genedl. "Canmolwn yn awr y gwŷr enwog," meddai, ac aeth i sôn yn naturiol iawn, am y llywodraethwyr a'r cynghorwyr, am y proffwydi a'r dysgedigion, am y cerddorion a'r beirdd. Gwŷr enwog.

"Bu rhai ohonynt hwy gyfryw ag a adawsant enw ar eu hôl,
Fel y mynegid eu clod hwynt."

Ond, yng ngeiriau bardd o Gymro,

"Fel y niwl o afael nant
Y disôn ymadawsant."

Neu, i ddyfynnu awenydd yr Apocryffa eto-

"Bu hefyd rai heb fod coffa amdanynt,
Ac a aethant fel pe nas ganesid hwynt,
A'u plant ar eu hôl hwynt."

Pobl syml a di-sôn, gwir fawredd pob cenedl. Gwelai'r pregethwr y rhai hynny mewn ambell wlad fel clai yn nwylo'r crochenydd, ac arswydai weithiau wrth feddwl am y dyfodol. Ond diolch fod y caredig a'r trugarog yn blodeuo o'n cwmpas yng Nghymru. "Eithr gwŷr trugarog oedd y rhai hyn,"