Tudalen:William-Jones.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddai'r bardd o Iddew, ac ni allai dalu harddach teyrnged iddynt.

"Byth y pery eu hiliogaeth,
A'u gogoniant ni ddileir."

Hoffai-yr oedd trydan ei deimlad fel pe'n goleuo llais y pregethwr-weld y wlad a garai, y Gymru hon, yn tyfu'n fawr ac yn enwog a'i meibion yn arwain y byd, ond pa orchestion bynnag a gyflawnai hi, gweddïai y cadwai, mewn llwydd ac aflwydd, mewn hindda ac mewn ystorm, harddwch yr ysbryd trugarog a oedd yn etifeddiaeth mor dda.

Arhosodd Crad yn ei wely y bore trannoeth, ond teimlai'n llawer gwell ar ôl cinio a chrwydrodd ef a William Jones i lawr y pentref am dro. Rhuthrodd Twm Edwards atynt gerllaw Neuadd y Gweithwyr.

"Otych chi 'di clywed, bois?"

"Clywad be?" gofynnodd Crad.

"Ma' pymthag o' ni 'di cal gwaith."

"Taw, fachgan! Ymh'le?"

"Yn Llan-y-bont. Ma' nhw'n mynd i gwnnu arsenal mawr yno, gwaith i filodd. Labro fydda' i, ond ma' rhai fel Seimon Jenkins y Saer 'di cal jobyn nêt. Fe fydd bws yn mynd o fan hyn bob bora ac yn ôl bob nos. 'Na dda, ontefa!"

"Arsenal?" meddai William Jones. "Be' 'di hwnnw, deudwch?"

"Miwnishons, bachan."

"Diar annwl! Ond 'on i'n meddwl mai ar gyfar rhyfal yr oedd isio llefydd felly?"

"Ia, ia, ar gyfar rhyfal y ma' nhw. Rhag ofan, 'chi'n deall. Y bachan 'Itler 'na. Ma'n bryd rhoi stop arno fa. 'Rodd Shinc yn gweud wrtho'i ..."

Ond brysiodd William Jones draw i'r Swyddfa Lafur.

Ysgydwodd y clerc ei ben. Y mae'n debyg y byddai gwaith ymhellach ymlaen, ond yr oedd yn rhaid cael yr adeiladau'n barod yn gyntaf, a chawsant ddigon o ddynion i hynny.

Efallai yr hoffai Mr. Jones alw ymhen rhyw fis?

Pan ddychwelodd at y ddau, dywedai Crad hanes ei bwl o afiechyd wrth Twm.

"Twt, 'dyw'r doctoriaid 'ma'n dda i ddim," oedd barn y dramaydd. "Pam nad ei di i lawr at yr hen Watkins i Ynys-y- gog, Crad? Ma' fa'n gallu gwneud gwrthia', bachan. 'Odd