Tudalen:William-Jones.djvu/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychodd arnynt tros ei sbectol fawr, ac yna agorodd lyfr- ysgrifennu o'i flaen. Rhoes ei ddannedd-gosod wên. "Yn awr 'ta'. Un yn dioddef oddi wrth ei nerfau a'r llall oddi wrth ei frest. Nerfau newyniaethus, ysgyfaint â dwst y garreg yn gronic ynddynt. Diagnosis cywir, onid e?"

"Dŵad yma yr oeddan ni, Mistar Watkins ..." Eisteddai William Jones yn ansicr ar fin ei gadair.

"Doctor Watkins, if you please."

"Ia. y... Doctor Watkins. Dŵad yma yr oeddan

"Mens sana in corpore sano."

"Y?"

"Gair mawr yr hen Rufeinwyr, fy nghyfaill. Ac ychydig a ddysgodd y byd er eu dyddiau hwy. Eich nerfau, onid e, fy ffrind?"

"Na, yr ydw i'n o lew, diolch, ond mae Crad 'ma ..."

"Mor ddall yr ydym! Mor ddiweledigaethus! Sefwch am funud, fy nghyfaill ... Diolch. Yn awr, eich llaw dde allan, gan bwyntio at y llun acw ar y mur. .. Da iawn. Yn awr, sefwch ar un droed ... Da, fy nghyfaill; da, fy ffrind..."

"Ond dŵad yma

"Yn awr, caewch eich llygaid ... Da, fy nghyfaill. Ac yn awr rhowch eich bys cyntaf ar flân eich trwyn.'

Wrth geisio ufuddhau, collodd William Jones ei gyd- bwysedd a suddodd yn ôl yn drwsgl i'w gadair.

"A! Onid y gwir a ddwedais i? Ewch â'ch meddwl yn ôl fy nghyfaill. A fuoch chwi, yn weddol ddiweddar, mewn rhyw sefyllfa straeniaethus?"

"Mewn be'?"

"Rhyw sefyllfa a odd yn dreth ar eich nerfau. Ceisiwch feddwl, fy ffrind."

Cofiodd William Jones am ei ymweliad â'r B.B.C.

"Wel, do, mi fûm i'n ..."

"Campus, fy nghyfaill. Ac yr oedd eich llwnc a'ch genau'n sych?"

"Wel, oeddan', ond dwad yma yr oeddan ni ..."

"A'ch llaw yn crynu?"

"Wel, oedd, ond ..."

"Y Great Sympathetic, fy ffrind."

"Y be'?"

"Y Great Sympathetic Nervous System yn ddiffygiol, yn