Tudalen:William-Jones.djvu/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Crad?" meddai William Jones o'r diwedd.

"Ia, William?"

"Fydda' ddim yn well i ti. ... 'Fydda' ddim yn well i ti...?"

"Be'?" "Gymryd y pils 'ma. 'Falla' .. . 'falla' y gwnân' nhw les iti, wsti, oherwydd ..."

"Diolch, William.' A chymerodd Crad y blwch.

Aent heibio i'r ffermdy lle'r oedd y ceffyl a'r ddwy fuwch.

"Wyt ti'n gweld cynffon y fuwch goch 'na, William? 'I nerfau hi, wel'di." Ac ysgydwodd Crad ei ben yn drist.

"Trio hel y pryfad i ffwrdd y mae hi, Crad."

"Ond y mae'r fuwch arall yn reit llonydd. Na, 'i nerfau hi, William, 'i nerfau hi, 'ngwas del i."

Caeodd Crad fotwm ei gôt ag un llaw, ac yna camodd yn ôl a chodi ei fraich. Nofiodd y blwch crwn drwy'r awyr a disgynnodd wrth drwyn y fuwch goch.

"Good shot, yntê William!"

Ni wyddai William Jones pa un ai gwenu ai dweud y drefn a oedd ddoethaf. Ni wnaeth yr un o'r ddau, dim ond brysio ymlaen i gyfeiriad yr orsaf. Pa stori a ddyfeisient ar gyfer Meri, tybed? Y "Doctor" heb un math o feddyginiaeth at yr anhwyldeb a flinai Crad? Ia, fe wnâi'r esgus hwnnw.

Trannoeth, yn y prynhawn, derbyniodd lythyr oddi wrth Tom Owen, y Stiward, yn canmol ei waith ar y radio ac yn holi ei helynt. Mawr oedd y sôn am "Y Chwarelwr," ac rychai pawb ymlaen at benodau eraill "Y Pwll Du." Gwel- sai Tom Owen yn y papur hefyd mai William Jones fyddai'r holwr yn y gyfres o sgyrsiau, "Holi ac Ateb," a oedd ar gychwyn. Cofiai ei hen gyfeillion yn y chwarel ato'n fawr iawn, ac ef oedd testun llawer sgwrs yn y cabanau. Wedi chwaneg i'r un perwyl, "Ni wn beth yw eich cynlluniau yn awr, meddai'r llythyr, "ond os penderfynwch droi'n ôl i'r chwarel, bydd yn bleser gennyf wneud yr hyn a allaf trosoch." "Chwara' teg iddo fo!" oedd sylw Meri a Chrad pan ddangosodd y llythyr iddynt. Yna aeth William Jones a Mot am dro i fyny'r mynydd, ac eisteddodd cyn hir ar y ddaear gynnes i syllu ar draws y cwm. Yr oedd yn hen gynefin bellach â chroen anafus y llethr ac â hunllef y tip yn ymgreinio uwchben. Yn araf, fel yr edrychai, llithrodd tawch