Tudalen:William-Jones.djvu/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Swyddfa yr oedd Jack Bowen yn glerc ynddi. Clywsai Mrs. Bowen, ar ei ffordd adref o'r capel un bore Sul, yn ym- ffrostio bod "Jack ni" mewn plas o le yn awr ac mai ef oedd y prif glerc yno. Yr oedd yr adeilad yn un mawr, ond darganfu William Jones nad oedd gan Jack a'i feistr ond un ystafell fechan yn union wrth ben y drydedd res o risiau. Curodd ar y drws.

"Well?" gofynnodd gŵr bychan, llechwraidd yr olwg, a agorodd iddo.

"I would like to see Mr. Bowen, if you don't mind, syr."

"On business?"

"No, preifat, syr."

"Hm! Can't have your uncles calling here for you, you know, Bowen," meddai'r dyn, gan droi'n ei ôl i'r ystafell.

"No, sir. I'm awfully sorry, sir. Won't take a minute, sir."

Ni chlywsai William Jones lais mwy taeog a sebonllyd erioed.

"You'd better have a word with him on top of the stairs. I'll give you ten minutes."

"Thank you, sir."

Ia, Jac Bowen oedd y prif glerc, meddai'r chwarelwr wrtho'i hun: dim ond ef a'r dyn bach llechwraidd a weithiai yn aflerwch y swyddfa dlawd.

"Wel, beth ych chi'n moyn, Northman?" gofynnodd y llanc, ar ben y grisiau, â'r swagrwr eto yn ei dôn. "Dŵad i lawr yma i chwilio am Eleri yr ydwi. Mi gododd dicad i Gaerdydd 'ma pnawn ddoe, a 'welsom ni ddim golwg ohoni hi wedyn."

"Dyw hi ddim 'da fi, Northman." A thynnodd Jack Bowen leinin poced ei gôt allan mewn ymgais at ysmaldod.

Cadwodd y chwarelwr ei dymer.

"Roedd hi hefo chdi echnos, nos Ferchar. 'Welaist ti hi wedyn?"

"Do, y ffŵl fach. A mi 'wetas i wrthi am fynd sha thre." "Pryd oedd hyn?"

"Diwetydd ddo', ar ôl te. Mi ddath hi i'r digs 'co. 'na'r cwbwl wn i, Northman."

"Be' ddigwyddodd?"

"Mi ddath hi i'r digs 'co, ac 'on i yn cychwyn mas. 'Odd cwmni 'da fi."