Tudalen:William-Jones.djvu/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Porai Queen yn hamddenol yng nghongl y cae, a safai rhyw fachgen bach gerllaw'n ei gwylio hi a'r cart. Eglurodd i "Wili Bwtsiwr" roi ceiniog iddo am ei lafur.

"Lle mae o wedi mynd?" gofynnodd Crad.

"Smo fi'n gwbod."

Aeth William Jones yn ôl at y dyrfa i chwilio amdano, ond nid oedd golwg ar Wili John. Credodd unwaith iddo'i weld yn cuddio tu ôl i goits—babi Dai Llaeth, ond wedi iddo ymwthio drwy'r dyrfa ati, sylweddolodd mai camgymryd yr oedd. Dychwelodd at Grad, gan fod y glaw'n drymach yn awr.

"Mi awn ni, Crad. Mi ddreifia' i."

Aethant yn araf drwy'r pentref a William Jones yn "rêl dreifar," chwedl Crad. Ond yng ngwaelod yr allt a ddringai tua Nelson Street, pwy a oedd ar y stryd ond Meri a Mot. Llawenydd mawr i Fot oedd eu gweld, a cheisiodd ei fynegi trwy gyfarth a phrancio o amgylch coesau'r gaseg. Ceisiodd Meri ei alw'n ôl, a rhag ofn iddo ddychrynu'r gaseg, rhuthrodd Sarah Bowen, a oedd ar ei ffordd adref o'r Carnifal, ymlaen i'w yrru ymaith a'i hambarél. Defnyddiai ei llais angherddorol hefyd, a daeth Eic Hopkins o rywle i gynghori'r "ci gythral 'na" i gau 'i ben. A lle'r oedd Eic, yr oedd dau neu dri o'i gymdeithion sychedig, pob un ohonynt wedi'i fendithio â llais go gras. Rhwng popeth, yr oedd yno alanas o sơn, ac wedi ystyriaeth ddwys ond cyflym, penderfynodd Queen ddianc oddi wrtho. Ond daliodd William Jones ei afael yn dynn yn yr awenau, ac er ei fod ef a Chrad ar lawr y cart erbyn hyn, llwyddodd i berswadio'r gaseg fod dawnsio yn ei hunfan yn fwy diddorol na charlamu i fyny'r rhiw. Cydiodd un o gyfeillion Eic Hopkins yn ei phen, a thawelodd yn llwyr pan alwodd ef hi yn "gwd gel fach." Wedi i Feri afael yng ngholer Mot a'i arwain i ochr y stryd, ac i William Jones ddringo i lawr o'r cart i dywys y gaseg, aethant adref yn araf deg.

Syllodd Crad mewn penbleth ar sioncrwydd y gŵr cloff wrth ben y gaseg. Yr oedd troed yr hen William wedi mendio'n o gyflym, onid oedd? Tybed a oedd o a'r Wili John bach 'na, yn eu gwely'r nos, wedi ...? Ac wrth i rywun feddwl am y peth, nid oedd un synnwyr mewn rhoi'r ddau walch yna i gysgu hefo'i gilydd. Rhaid i Feri drio gwneud rhyw drefniant arall, neu dyn a ŵyr pa gynllwynion eraill a