tawent yn sur a grwgnachlyd. Cynorthwyo'i dad yn y dafarn yr oedd Now y pryd hwnnw, ac âi ymaith yn aml i Gaer- narfon a Bangor a hyd yn oed i Lerpwl i wylio'r bêl droed. Dewiswyd pwyllgor-yn y Bwl-a chrewyd Llan-y-graig United i'w reoli ganddo. O leiaf, enwyd rhyw ddwsino chwaraewyr tebygol a threfnwyd i gael brwydr yn Llan-y- graig neu yn y pentrefi o amgylch bob Sadwrn drwy'r gaeaf a'r gwanwyn. A "brwydr” oedd y gair.
Now Bwl a etholwyd yn Gapten. Nid am mai ef oedd y pêl-droediwr medrusaf, ond am y gwyddai'r pwyllgor yr ufuddhâi pawb i'w orchmynion. Onid ef a daflai Dwm Bocsar allan o'r bar i'r stryd bob nos Sadwrn ?
Enw'r dafarn, wrth gwrs, oedd y “Bwl” a fachwyd wrth ei enw cyntaf, ond gelwid ef hefyd yn Now Tarw yn bur fynych. Oherwydd tarw o ddyn oedd Now, â phen ysgwâr a gwddf byr, trwchus, ac fel tarw y rhuai wrth ruthro'n wyllt o gwmpas cae'r bêl droed. Nid oedd yn fawr o chwaraewr, ond cliriai'r ehofnaf o'i ffordd pan ysgubai fel corwynt am y bêl. A phan ddeuai Now Bwl i wrthdrawiad â rhywun, cludid y truan hwnnw o'r cae yn fuan wedyn. Rhybuddid y Tarw, wrth gwrs, gan bob canolwr, ond dysgai cyn diwedd y gêm mai chwythu ei chwibanogl ac nid pregethu oedd ei waith ef. Yn arbennig pan frysiai Twm Bocsar, â'i ddyrnau i fyny, ato i egluro nad oedd ar wyneb y ddaear neb addfwynach na Now.
Twm Bocsar! Ysgydwai'r gwely'n fwy fyth o dan Grad pan feddyliai amdano ef. Buasai Twm yn golier yn y De am gyfnod ac, fel y tystiai ei drwyn, yn dipyn o focsiwr yn ei oriau hamdden. Collodd un llygad mewn rhyw ymrafael difenyg, a dychwelodd i Lan-y-graig ac i'r chwarel â phob math o hanesion arwrol yn ymwau o'i amgylch. Ni wadai Twm mohonynt, dim ond ceisio edrych yn yswil i lawr ei drwyn â'i un llygad. Ef a chwaraeai yn union tu ôl i Now Bwl ar y dde i'r cae, ac os digwyddai rhywun sionc wibio heibio i'r Tarw, gofalai'r Bocsar ei yrru â'i draed i fyny. Yfai Twm botelaid fawr o stowt yn yr egwyl ar ganol y chwarae, a chas- glai tyrfa o fechgynnos o'i amgylch i wylio symudiadau cyson yr afal yn ei wddf. Ac wedi'r atgyfnerthiad hwn, troai Twm yn ôl i'r cae gan deimlo'n barod i wynebu'r gelynion oll ei hun.
Huw Mwnci oedd y trydydd "cymeriad” yn y tîm. Dyn tal iawn, ymhell tros ei chwe throedfedd, oedd ef, a'i ben bron yn foel er nad oedd ond rhyw wyth ar hugain. Ef oedd