Tudalen:William-Jones.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cychwynnodd y bws, a threuliodd y ddwy ddeng munud difyr iawn yn adrodd profiadau deintyddol. Yna, yn sydyn, cofiodd Susan am helyntion Maggie Jane Ifans a'r gŵr a giliodd i'r Sowth.

"'Glywist tì am Now John Ifans?"

"Naddo. Be'?"

"Wedi gadal 'i wraig a mynd i'r Sowth, cofia."

"Diar annwl, pam ?"

"Wel, mi wyddost sut un ydi Maggie Jane—ddim yn codi yn y bora, na gneud bwyd, ac yn galifantio i Gnarfon o hyd. Roedd Huw 'cw yn deud mai i'r Sowth ne' rywla y base" fynta'n mynd hefyd 'taswn i yn byhafio yr un fath â hi. Yr hen gnawes iddi, yntê? A Now John yn ddyn bach mor glên a diniwed."

Aeth Leusa yn syth at y deintydd pan gyrhaeddodd y dref, ond nid oedd ef yn rhydd am hanner awr. Troes i gaffi gerllaw am gwpanaid i ladd amser. Rhoes y ferch a weinyddai arni blatiad o gacenni hefyd ar y bwrdd, ond penderfynodd Leusa Jones wrthsefyll y demtasiwn. Ond yr oedd y cacenni yn rhai neis, rhai neis iawn. Dim ond un fach go feddal, meddai wrthi ei hun, sponge fach. A chan fod y nofel hon yn wir bob gair, y mae'n rhaid imi groniclo i'r wraig ddiddannedd a digywilydd hon glirio'r platiad i gyd.

Yr oedd yn wir ddrwg gan y deintydd, ond ni fedrai yn ei fyw addo'r dannedd mewn llai nag wythnos: digwyddai fod yn anarferol o brysur, a thrawyd ei gynorthwywr yn wael yn sydyn. Methu'n lân â dod i ben, Mrs. Jones, popeth ar draws ei gilydd. Ond fe wnâi ei orau glas, hyd yn oed petai'n rhaid iddo aros ar ei draed drwy'r nos. Hm, ymh'le y cawsai Mrs. Jones y dannedd hyn? Rhai go sâl, yr oedd yn rhaid iddo ddweud, rhai tila iawn. Gallai ddefnyddio rhai ohonynt os dymunai Mrs. Jones hynny, ond ei gyngor ef oedd cael set hollol newydd. "Rhai naturiol fel y rhai hyn, er enghraifft," meddai, gan ddangos iddi gerdyn â rhes o ddannedd ynghlwm arno. Ni fyddai neb yn gwybod wedyn nad oedd gan Mrs. Jones ei dannedd ei hun o hyd. Cytunodd Leusa fod y dannedd yn rhai hardd iawn a'i bod hi wedi meddwl ganwaith mor hyll oedd y rhai a fuasai ganddi hi. Campus, campus; fe ofalai ef y câi hi'r set odidocaf yn y sir, ac os byddai Mrs. Jones mor garedig ag eistedd yn y gadair 'na am funud iddo gael cymryd