Tudalen:William-Jones.djvu/240

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gŵr tawelaf yn y tir, ac ni lefarai fwy nag ugain o eiriau ar ei ddydd huotlaf. Cyfrifwyd hwy un diwrnod gan ei bartner yn y chwarel. Ned Morus siaradus a dadleugar oedd hwnnw, a rhoes farc ar fur y wal am bob gair a ddywedodd Huw yn ystod y dydd. Un ar ddeg oedd y cyfanswm, er i Ned wneud ei orau glas i gyrraedd y dwsin. Dewisai Huw gnoi baco yn hytrach na geiriau.

Enillodd ei lysenw drwy fabwysiadu mwnci. Crwydrai rhyw ddyn hefo hyrdi-gyrdi drwy'r pentref un prynhawn Sadwrn, a phan ddaeth Huw allan o'i dy i roi ceiniog iddo, syrthiodd y dieithryn yn farw. Ni chafodd amser i egluro paham y gwnâi beth felly, ond ni roes neb y bai ar Huw. Cafodd Wil Plisman gymorth i gludo'r dyn a'i offeryn ymaith, ac yna eisteddodd Huw yn freuddwydiol yng nghegin fach ei dyddyn, gan ryfeddu at ansicrwydd bywyd. Ysgydwodd ei ben yn drist, ac yna teimlodd rywbeth byw yn neidio ar ei ysgwydd. Yr hen gath? Na, yr oedd newydd ei boddi hi, gan ei bod mor fethiannus, ond clywsai sôn fod iddi hi a'i thylwyth naw o fywydau. Rhwbiodd rhywbeth ochr ei wddf, ac edrychodd i lawr ar ei wasgod. Hongiai cynffon hir hir arni, ac eisteddodd Huw yn hollol lonydd, gan ofni symud hyd yn oed ei lygaid rhag ofn iddynt wneud sûn. Yna neid- iodd y mwnci ar ei fraich ac ar y bwrdd o'i flaen, gan ddwyn afal bychan o'r bowlen wydr a oedd yno. Beth a wnâi ag ef? Gallai roi cath neu gi yn anrheg i rywun ag angen un arno, ond nid hawdd oedd meddwl am neb yn dyheu am fwnci. “Dos i nôl Wil Plisman i fynd â'r cradur i ffwrdd o' 'ma," oedd gorchymyn ei fam weddw. Ond dal i eistedd wrth y bwrdd yr oedd Huw, gan wenu wrth wylio'r mwnci'n mwyn- hau'r afal. "Os nad ei di i'w nôl o, mi a' i," meddai'r hen wraig. Credodd y mwnci mai ag ef y siaradai, a cheisiodd fod yn gwrtais trwy neidio i gongl y bwrdd ati a gwneud rhyw sûn yn ei wddf i ddweud ei fod yn o lew, diolch. Rhuthrodd Elin Jones o'r tŷ i chwilio am Wil Plisman.

Erbyn iddi hi a'r plisman ac eraill gyrraedd yn ôl, yr oedd y mwnci ar ganol y bwrdd yn gwledda ar yr holl afalau a'r eirin a'r da-da a oedd yn y tŷ. Ac yr oedd yn amlwg fod Huw ac yntau'n gyfeillion mawr. Pan geisiodd Wil Plisman gydio yn yr anifail, neidiodd ar ysgwydd y dyn caredig a roesai gymaint o fwyd iddo, ac oddi yno, edrychai'n ddrwgdybus ar ŵr y dillad swyddogol. Efallai i ddillad felly ei ddychrynu