Tudalen:William-Jones.djvu/243

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nid dyna'r tro yr aeth o â fo i gefn y Bwl?"

"Ia, fachgan, a'i ollwng o i'r hen gasgan-ddŵr fawr honno o dan y beipan o'r landar."

"Ond mi aeth y gêm yn 'i blaen, os ydw i'n cofio'n iawn?" "Do, a Dic Pyrs, Llan Rhyd, yn refferî. Gêm dda oedd hi hefyd. 'Doedd Dic Prys ddim yn un rhy barticlar."

Mewn atgofion felly y treuliai Crad lawer o'r dyddiau araf, ond cymerai hefyd ddiddordeb eithriadol ym mhopeth a ddigwyddai o'i amgylch. Gwyddai'r dyn claf yn aml fwy na William Jones am y symudiadau ar y llawr, a châi'r chwarelwr dafod yn aml am gludo newyddion na ddylai i'r llofft.

"Pam ôch chi'n gweud wrtho fa 'mod i mas am dro 'da Richard Emlyn nithiwr?" oedd cwestiwn dig Eleri un diwrnod.

"Deud wrth bwy?"

"Wrth Dada."

"Wyddwn i ddim dy fod ti allan hefo Richard Emlyn, nen' Tad. Y cwbwl ddeudis i wrtho fo oedd imi weld Richard Emlyn wrth y Post gyda'r nos pan es i i godi arian."

"Beth arall 'wetsoch chi?"

"Dim ond nad oedd o ddim fel 'tae o isio imi aros i siarad hefo fo. Mi wn i pam 'rwan."

"Pam?"

"Am 'i fod o'n dy ddisgwyl di. Ond 'wnes i ddim meddwl am hynny ar y pryd."

Dro arall, Meri a ddywedai'r drefn.

"Be' oeddat ti isio deud wrtho fo 'mod i'n sgwrio'r gegin 'ma, ac yn ysgwyd matia', William?"

"Sonnis i ddim gair am sgwrio na matia' wrtho fo."

"Sut y gwydda' fo, 'ta'?"

"Mi ofynnodd imi lle'r oeddat ti, a mi ddeudis dy fod ti'n llnau tipyn ar y gegin 'ma. Be' sy gynno fo'n erbyn ysgwyd matia', dywad?"

"Dadla' 'mod i'n lladd fy hun wrth olchi'r llawr ac ysgwyd matia' byth a hefyd. Paid ti â sôn dim am be' ydw i'n wneud wrtho fo. Cofia di 'rwan."

Ond cyhuddid William Jones ar gam weithiau.

"Chi 'wetws wrth Dada 'mod i'n smoco?" gofynnodd Wili John un nos yn y gwely.

"Wyt ti yn smocio?"

"Odw', ond 'dyw e ddim i wbod."

"Ddaru mi ddim crybwyll dy enw di heno 'ngwas i."