Tudalen:William-Jones.djvu/249

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth y bin—rowlio a glynu'n ffyddlonach fyth wrth fysedd Wili John.

"S dim ots," meddai yntau. "Fe gawn ni gyllath i'w dorri fa'n chwe lwmp a fe wasgwn ni sosej miwn i bob lwmp."

Hynny a wnaed, ac fel y clai yn nwylo'r crochenydd, felly'r toes dan fodiau'r crefftwr hwn.

"'Oes dim isio tynnu croen y sosej, dywad?" oedd cwestiwn craff ei gynorthwywr.

"Pam na 'sach chi'n gofyn 'ynny o'r blân, w? Ma' hi'n tw lệt 'nawr."

Tra oedd y chwe champwaith yn y popty, aeth William Jones a Wili John ati i lanhau'r gegin, ac wedyn aeth William Jones ati i lanhau Wili John. Cymerodd hyn oll ryw hanner awr, ac erbyn hynny yr oedd y danteithion yn barod, meddai'r cog. Yn barod i beth? a ddeuai i feddwl y gwas bach.

Gosodwyd y bwrdd i de, ond nid oedd plât digon mawr i letya'r chwe dirgelwch. Daeth Wili John o hyd i blât—cig enfawr ar silff uchaf y pantri.

"Diar annwl, i be' mae isio chwe torth ar y bwrdd?" gofynnodd Meri pan ddaeth hi i mewn.

"Sosej-rôls, w," eglurodd ei mab.

"Y?"

"Ia, sosej-rôls," ategodd ei gynorthwywr.

"Fi a Wncwl William 'di gwneud nhw. A roeson ni loto becin—powdar ynyn nhw."

"Mi faswn i'n meddwl, wir! A lle cest ti'r blawd?"

"Yn y bag melyn yn y pantri."

"Y nefi blŵ!"

"Beth?"

"Self-raising oedd hwnnw!"

Cyrhaeddodd Eleri o'r ysgol ac eisteddodd y teulu i lawr i fwynhau eu te. Yr oedd y bara—ymenyn a'r deisen afalau, a wnaethai Meri yn y bore, yn dda iawn, ond ni ruthrai neb i brofi'r danteithion ar y plât yng nghanol y bwrdd. Diflannai cynnwys y platiau eraill o'i gwmpas yn gyflym o un i un, a cheisiai William Jones feddwl am rywbeth gwreiddiol i'w ddweud am y tywydd pan âi llaw un ohonynt heibio i'r plât mawr at un arall. Ymwrolodd Wili John o'r diw ac aeth y lleill ymlaen â'u te heb gymryd un sylw o'i ymdrechion i gnoi lledr. Ar ddamwain yn hollol y digwyddodd ei ewythr grybwyll bod y Mr. Green 'na, y soniai Bob Gruffydd amdano,