Tudalen:William-Jones.djvu/256

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ôl. Yr ydw i wedi addo .. wedi addo ..." Ond ni fedrai gofio pa un o'i addunedau fil a oedd i'w chyflawni'r noson honno. "Daria unwaith!" ychwanegodd. "Mi fu bron imi ag anghofio 'mod i isio rhedag i'r Post 'na. Mi ddalja' i chi i fyny ar y ffordd adra. 'Fydda' i ddim chwinciad."

Ond yng nghwmni ei gilydd yr aeth y ddau tuag adref, gan ddyfalu a oedd y Post o hyd yn yr un fan. Yna, ar ôl te, cafodd Eleri afael ar ei hewythr ar ei ben ei hun, a thyngodd ef lw na sonjai air amdani hi a Richard Emlyn "wrth Dada." Galwai'r llanc i edrych am Grad yn weddol aml, bob tro tua hanner awr wedi pump, gan aros tan chwech. Cyd—ddigwyddiad hollol oedd bod Eleri, wrth fynd allan, yn rhoi clep ar y drws ffrynt ryw funud i chwech.

"Diawch, mae hogyn Shinc yn meddwl fy mod i'n un dwl, William," oedd sylw'r claf ryw funud wedi chwech ar un o'r nosweithiau hynny.

"O? Pam, dywad?"

"Mae o'n cymryd arno mai dŵad yma i 'ngweld i y mae o, ond cyn gyntad ag y clyw o sŵn y drws ffrynt 'na'n cau, i ffwrdd â fo. Mi ddechreuis i ddeud stori reit ddiddorol wrtho fo heno—hanas y tro hwnnw y bu'i dad o a finna o dan y cwymp—ond 'wyt ti'n meddwl 'i fod o'n gwrando arna' i? 'No denjar,' chwedl Twm Bocsar ers talwm." "Mae arna' i ofn dy fod ti'n dychmygu petha', Crad. Mae practis y côr heno, y practis cynta' ar gyfar Saint Paul, ac mae Eleri a Richard Emlyn yn mynd yno. Rhaid i minna' 'i throi hi hefyd, fachgan."

"Oedd 'na bractis echnos?"

"Nac oedd, ond i weld hogan Mrs. Leyshon ynglŷn â rhw—bath yr aeth Eleri echnos, medda' hi."

"Yr ydw i wedi ffeindio, William Jones," meddai Crad, gan ddynwared llais crynedig Mr. Lloyd Llan-y-graig, "nad ydach chi, y mae'n ddrwg gin i ddeud, mor ddiniwad ag yr ydach chi'n edrach. Ond y mae 'na un peth, William Jones, yr hoffwn i'i argraffu ar eich meddwl chi."

"Be'ydi hwnnw, Crad?"

"Y medrai'r bôi yma ddysgu tric ne' ddau i Richard Emlyn, 'ngwas i. Oni chofiwch chi, William Jones, mor hoff oeddwn i ohonoch chi pan oeddwn i'n rhedag ar ôl eich chwaer, ac mor hoff hefyd o droi'r mangyl i'ch mam druan? Ond efallai i chwi gredu mai syrthio mewn cariad hefo'r mangyl a wnes i. ...