Tudalen:William-Jones.djvu/260

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo o bob cyfeiriad—Siroedd Henffordd a Chaerloyw, o Ddyfnaint a Chernyw, o gefn gwlad Cymru, ac o Iwerddon. Digon o waith, digon o arian, digon o fynd. Ond prin iawn oedd tai a llety, ac mewn llawer tŷ cysgai dau "lojar" mewn gwely yn y nos ac âi dau arall iddo pan godent hwy yn y bore. Cyrhaeddai llu heb ddim ar eu helw ond y wisg amdanynt, ond ymwthiai pob un i lety yn rhywle a chaent fenthyg rhyw fath o ddillad ar gyfer y pwll.

"Jawch," meddai Ned Andrews, a flinasai ar ennill triswllt yr wythnos mewn ffarm yn y wlad yn y dyddiau hynny ac a ddihangodd i Fryn Glo, "pwtyn byr wy' i, ond 'odd 'da fi drowsus Dic 'y nghender yn mynd i'r gwaith. A 'odd Dic yn fachan six foot four and a 'alf yn nhrad 'i 'sana'. Jiw, 'odd 'da fi ddigon o iorcs am 'y nghoesa' i raffu tarw, bois! Ond 'odd neb yn wherthin am 'y mhen i, am fod sopyn yr un peth hyd y lle. Rhyw hen ddillad am eich cylch, a phrynu mandral a rhaw, ac 'ôch chi'n reit."

"Oedd arnoch chi ofn ar y dechra', Ned?" gofynnodd William Jones.

"Ofan? Odd. 'On i'n credu taw mynd lan, nid lawr, 'on i yn y caets, a fe es i i witho mewn ffwrnas o le yn North Deep. 'Fues i ariôd miwn 'i wath a. 'Odd y to'n gwasgu a'r pyst yn snapo fel matsis yno. Jiw, 'na le i grwt o'r wlad!" A gyrrodd yr atgof law Ned i'w boced i nôl ei hances.

"On ni'n gwitho o saith yn y bora tan 'wech y nos," meddai, gan sychu'i dalcen, "ac yn y gaea' dim ond ar ddiwedd wthnos 'on ni'n gweld gola' dydd. Ond ar y cychwyn, y batho bob nos odd yn 'ala collad ar ddyn. 'Odd pedwar o 'ni'n batho yn y gegin fach yr un pryd—dou'n 'molchi o'n canol lan gynta' ac wedi'ny o'n canol lawr, ontefa? A jawch, 'odd 'na fenyw y Jawl drws nesa', yn siŵr o rytag miwn pan odd neb yn 'i moyn hi. A bachan shei ofnadw on i. Ar ôl 'ny 'odd Bopa Lizzie'n newid y dŵr i'r ddou arall, a'mhen rhw ddwyawr 'odd popeth 'di'i gymonni a'r gegin yn spic a span unwaith eto. Na slafo 'odd mynywod y pryd 'ny, fechgyn! Jiw, jiw!"

"Sawl un oedd yn eich tŷ chi, Seimon?" gofynnodd Crad i Simon Jenkins y Saer, a ddigwyddai fod yn y llofft ar y pryd.

Dewch weld 'nawr. 'On ni'n naw o blant—naw yn fyw, achos fe gladdws 'mam 'wech pan on nhw'n fabis. Wedyn 'odd 'mam a 'nhad, wrth gwrs, a wncwl i 'mam a'i fab e. Nhw