odd ein lojars ni. A'r hen fobol—Dad-cu a Mam-gu. 'Faint yw 'wn'na 'nawr? 'Na chi bymthag, ontefa? A dim ond dou fedrwm odd yn y tŷ."
"Odd cwpwl o chi'n cysgu yn y parlwr, sbo!" meddai Ned Andrews.
"Dim ffiar! 'Odd 'da 'mam siop fach loshin fan 'no."
"Rargian fawr, 'roedd gan eich mam ddigon i'w wneud, Seimon," meddai William Jones.
"Odd, ond 'odd hi'n fenyw smart, 'êd, gwaith ne' bido. 'Sach chi'n gweld hi'n cario bwceded o fwyd moch lan i'r mynydd ar 'i phen! 'Odd hi'n cerddad fel brenhines, w."
"Duwcs annwl, moch hefyd!" Awgrymai'r syndod yn llygaid William Jones mai cadw llewod a wnâi Mrs. Jenkins yn ei horiau hamdden.
"Dou fochyn bob amser, a rhyw ugain o ffowls yn y cwtsh mas y bac. A fe gath Wil 'y mrawd bang i gadw clomennod, a Sam, brawd arall, i frido cŵn. Ond er 'bod ni shwd growd, 'odd 'na ddigon o fwyd da ar y ford—tishan lap a thishan 'fala' a Welsh cêcs i de ar ddydd Sul, digonedd o gig a thatws a phwdin reis i gino, a phan on ni'n lladd mochyn, bachan, bachan ...!"
"Nawr, gad hi'n fan'na 'nawr," meddai Ned Andrews.
"Ar y dole 'wy'i o hyd, cofia, a ma' 'da ni ddou fedrwm gwag yn y tŷ 'co, ac Ieuan ni yn y Dagenham 'na a Rachel miwn gwasanaeth yn Llunden. A gwag fyddan nhw, 'êd. Pwy sy'n moyn lojo miwn depressed area? Ond daro, 'ma ffordd i siarad o flân dyn tost, w! Dewch, Seimon, ma'n bryd inni fynd."
Pan ddywedodd Crad stori Simon Jenkins wrth David Morgan, nodiodd y cerddor, gan wenu'n freuddwydiol.
"Odd, 'odd bywyd yn lled galad flynyddodd yn ôl," meddai. "On inna'n un o naw, a dim ond dwy ystafell, y gegin a'r llofft, odd yn y bwthyn to gwellt. 'Odd tri gwely lan llofft, ac yno 'on ni'r plant yn cysgu, tri o' ni ym mhob un. Lawr yn y gegin 'odd 'nhad a 'mam a chyrtan 'da nhw o gylch y gwely. 'On i'n gorffod cerad dros filltir i foyn dŵr o'r pistyll bob bora cyn mynd i'r ysgol—iou ar f'ysgwydda' i a dou bisher yn hongian arno fa. Ac ambell waith yn y gaea', 'odd y llwybyr ar bwys y tŷ ishta pishin o wydyr 'da'r rhew, a llawer tro 'odd raid i fi fynd nôl bob cam i'r pistyll ar ôl cwmpo a