Tudalen:William-Jones.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

groes. Yr oedd hyd yn oed y cythraul canu'n addfwyn a brawdol yn Siloh.

"Y brawd Ifan Davies, 'gawn ni air bach gynnoch chi? ... Dowch, frawd, dowch, gair bach."

Dywedodd Ifan Davies ei bod hi'n fraint fawr i'r saint gael cyfarfod yn y deml fel hyn. Lle bynnag yr oedd dau neu dri o'r ffyddloniaid ... Yr oedd bywyd yn beth ansicr iawn: fe welai ef hynny yn ei waith bob dydd. Ond diolch am Ras, onid e? Diolch am y drefn i achub holl drueiniaid y byd. Meddiannu darfodedig bethau'r llawr oedd uchelgais llawer un, heb gofio bod y gwyfyn a'r rhwd yn llygru cyfoeth a bod pleserau'r byd yn diflannu fel y mân us a chwâl y gwynt ymaith. Nid oedd ond rhyw ugain ohonynt yn y Seiat, ond diolch fod ugain â'u traed ar y llwybr cul, yn chwilio am y manna yn yr anialwch ... Teimlai William Jones y rhoddai lawer am fedru siarad fel ei frawd yng nghyfraith. Cawsai yrfa ddisglair yn y Band of Hope ac yn y Penny Reading—fel canwr ac adroddwr a storïwr—ond ni fedrai yn ei fyw ymwroli digon i areithio yn y Seiat. Cadwodd ei gannwyll dan lestr, er iddo lunio llawer araith ysgubol yn ddistaw bach wrtho'i hun. Y drwg oedd fod meddwl William Jones yn anniddig os nad oedd ystyr geiriau'n berffaith glir iddo. Yr oedd llu o eiriau na fedrai ef yn ei fyw eu deall. Y gair "gras," er enghraifft. Deuai hwnnw i mewn yn aml i'w areithiau ysgubol, ond petai rhywun yn dechrau ei holi'n fanwl yn ei gylch, gwyddai y deuại atal-dweud i'w leferydd. A bu William Jones o'r herwydd yn rhy onest i stwnsian yn y Seiat.

I'r un perwyl ag Ifan Davies y siaradodd dau arall, a theimlai Mr. Lloyd yn ddiolchgar iddynt am lenwi'r chwarter awr cyntaf o brofiadau : neilltuasai ef yr ail chwarter awr ar gyfer huodledd parod Wmffra Roberts.

Pan gyrhaeddodd William Jones y tŷ, taflodd olwg eiddgar drwy ffenestr y gegin, ond caledodd ei wyneb ar unwaith. Aeth i eistedd eto yn y gadair freichiau, gan syllu'n ddicllon ar y botel bicyls a deyrnasai o hyd ar ganol y bwrdd. Hylô, yr oedd y plât lle buasai'r brôn yn wag, ac edrychai'r gath yn bur euog pan droes ei meistr ati. "Mi wnest yn iawn, yr hen gariad," meddai wrth ei harwain i'r gegin fach am lymaid o lefrith. Ymh'le yr oedd Leusa, tybed? Os aeth hi i'r sinema 'na heno, yna ... Yna beth? Mewn tymer wyllt peth go