Tudalen:William-Jones.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi i'w gwely. Syrthiodd Leusa i gysgu ar unwaith, gan freuddwydio am Ronald Colman yn ei hachub o grafangau William Jones, ac aeth y gŵr mwyn ac amyneddgar wrth ei hochr ati i gyfrif defaid. Yr oedd wedi corlannu dau gant tri deg a naw pan ddechreuodd genau Leusa gynhyrchu sŵn go angherddorol. Chwyrnu yw enw'r sŵn pan ddaw o enau dynion, ond gan na chwyrnodd un ferch erioed, ni ddyfeisiwyd enw arno pan fo'n deillio o'i genau hi. Collodd William Jones ei afael yn y ddafad nesaf, ac aeth y cwbl i gyd, fel defaid William Morgan, ar grwydr. Bodlonodd wedyn ar gyfrif tipiadau'r cloc, ond yr oedd anadlu trwm Leusa fel pe'n mynnu gwrthod cadw amser gyda'r cloc.

Ia, peth hawdd oedd bygwth mynd i'r Sowth, ac nid rhyfedd bod Ifan Siwrin yn chwerthin am ei ben. Beth a wnâi ef yn y Sowth, yng nghanol y paganiaid powld a swnllyd a oedd yn byw ar draws ei gilydd yn hagrwch cymoedd culion? Eto, rhoddai Meri ei chwaer air da i Fryn Glo, y lle a ddewisasai hi a Chrad a'r plant i fyw ynddo. Ond heb waith yr oedd cannoedd yno, a Chrad yn eu plith, a heb waith, efallai, y byddai yntau ped ai. Efallai? Na, byddai'n fwy na thebyg, gan na wyddai ef ddim am dorri glo. Ac eto ...

Clywodd gloc y gegin yn taro un o'r gloch. Beth a wnâi Now John Ifans yn y Sowth, tybed? Twt, ni fyddai'n ddim gan hwnnw gardota hyd yr ystrydoedd ond iddo gael arian i yfed. Ond ni allai ef, William Jones, fyw bywyd felly. Na, ffolineb oedd bygwth fel y gwnaethai: fe wellhâi pethau yfory, byddai Leusa'n diwygio, a'i fyd ef yn llawer esmwythach. Llithrodd i gysgu cyn hir, a breuddwydiodd fod Ifan Siwrin yn ei arwain fel mwnci wrth gadwyn drwy gwm poblog yn y Sowth. Dilynid hwy gan dyrfa fawr yn chwerthin am ei ben ac yn taflu wyau drwg ato. Crechwen Leusa oedd yr uchaf, a gwelai hi yn ymwthio drwy'r dorf ac yn lluchio dyrnaid o chips i'w wyneb. Deffroes, yn chwys i gyd, i wrando ar y cloc yn taro pedwar ac ar Leusa'n dal i anadlu'n swnllyd wrth ei ochr.

Wedi rhyw awr o droi a throsi penderfynodd godi. Rhuthr gwyllt oedd hi arno ef bob bore fel rheol, a dyma gyfle, meddai wrtho'i hun, i baratoi brecwast blasus a chymryd amser i'w fwynhau ac i gael mygyn braf uwch cwpanaid o de. Chwarter wedi pump, meddai cloc y gegin. Wedi cynnau tân a chludo'r pethau i'r bwrdd, eisteddodd yn y gadair freichiau i aros i'r