tegell ferwi. Rhyfedd fel y collasai'r gegin ei graen yn ddiweddar! Cofiai'r cadeiriau a'r dresel a'r jygiau copr arni a'r canwyllbrenni ar y silff-ben-tân, y cwbl yn sglein i gyd. Ond yn awr, llwch ar bopeth. Hylô, onid arferai pum pâr o ganwyllbrenni addurno'r silff-ben-tân? Nid oedd ond tri yno yn awr, ac yr oedd ef yn berffaith sicr ... O, Leusa wedi eu rhoi o'r neilltu, y mae'n debyg... Gormod o waith i'w glanhau—er nad oedd llawer o ôl rhwbio ar y rhai hyn. Ac eto ... Torrodd fara-ymenyn ac yna trawodd ddarn o gig moch yn y badell ffrio. Os na chodai Leusa i wneud bwyd iddo yn y bore, fe ofalai ef amdano'i hun. O, gwnâi. Penderfynodd gael wy hefyd, ond er dyfal chwilio yn y gegin fach ac yn y cwpwrdd dan y grisiau, ni ddarganfu un. Dim gwahaniaeth, dim ods o gwbl.
Yr oedd ar ganol ei frecwast pan chwalwyd y distawrwydd gan sŵn y cloc-larwm yn y llofft. Gwenodd. Ni wnâi ddrwg i Leusa gael ei hysgwyd allan o'i chwsg swnllyd. Cig moch da. Pur flasus. Clywodd gamau brysiog yn dod i lawr y grisiau, ac agorodd ei lygaid yn llon. Leusa yn diwygio o'r diwedd!
"Be' sy?" gofynnodd hi pan ddaeth i mewn i'r gegin yn ei choban.
"Y?"
"Yr hen gloc 'na yn fy neffro i, a dim golwg ohonat ti yn y llofft."
"Mi godis i cyn i'r larwm fynd."
"Pam na fasat ti'n symud y nobyn ar ben y cloc 'ta'? A'r doctor wedi deud wrtha'i..."
"Doctor?"
"Mi es i ato fo'r diwrnod o'r blaen. Peidio ag ecseitio, medda' fo."
"O."
Troes yn ei hôl tua'r grisiau, gan daflu ei phen a cheisio ymddangos yn urddasol yn ei choban.
"Leusa!"
"Ia?"
"Sawl pâr o ganwyllbrenni oedd gynno' ni ar y silff-bentân ma?"
"Pump."
"Dim ond tri sy 'na 'rwan."
"Gormod o waith llnau arnyn nhw o lawar.'