"Lle mae'r lleill?"
"Mi gwerthis i nhw."
"O? I bwy?"
"I ryw ddyn o Fangor ddaru alw yma. 'Roedd o isio prynu'r dresal, ond mi wrthodis i. Dyn clên iawn." A difannodd Leusa i fyny'r grisiau.
Torrodd William Jones frechdanau ar gyfer ei dun-bwyd yn hamddenol, a chwiliodd eto yn y gegin fach ac yn y cwpwrdd dan y grisiau am rywbeth blasus i'w roi rhyngddynt. Tamaid o gaws go sych oedd ffrwyth yr ymchwil.
"Be' sy hiddiw, William?" oedd cwestiwn Bob Gruffydd iddo yn y wal wedi ysbaid hir o dawelwch rhyngddynt.
"Dim byd. Pam?"
"Dy weld di'n o dawal a phell, fachgan. 'Ydi'r hen ddannodd 'na yn dy boeni di?"
"Ddannodd?"
"Huw Lewis yn deud dy fod ti isio tynnu dy ddannadd. Ac isio imi dy berswadio di i fynd at Huws Dentist. Ond gair go sâl ydw i'n glywad i hwnnw, wir. Mae'r dyn yn yfad yn o drwm, meddan nhw."
"Yr ydw i'n drofyn mynd ers tro, Bob. Ond i Gnarfon yr a 'i, mae'n debyg. Maen nhw'n fy mhoeni i'n o arw hiddiw." Rhoes Robert Gruffydd y gyllell-naddu heibio a chododd oddi ar y drafel.
"Wyt ti am ddŵad i lawr i'r twll, William?"
"Mi ddo'i ar dy ôl di, Bob, wedi imi orffan hollti'r clytia' yma.
"O'r gora'."
Tawelwch feddwl a geisiai William Jones. Beth arall a roes Leusa i'r dyn hwnnw o Fangor, tybed? Pam y cuddiasai hi'r peth rhagddo ef? Cofiai mor falch oedd ei fam o'r canwyllbrenni hynny ac fel y glanhâi hwy'n gyson. Dyna a drawai ddyn pan ai i mewn i'r gegin—y triongl hardd o ganwyllbrenni ar y silff-ben-tân. Pam y gwerthasai Leusa hwy? Rhoddai ef arian da iddi bob wythnos—yn wir, ei gyflog bron i gyd—ac ni wariai hi lawer ar fwyd iddo ef, yr oedd hynny'n amlwg ddigon.
"Wedi gwneud eich meddwl i fyny, William Jones?" Huw Lewis a oedd wrth geg y wal.
"Am be', Huw?"
"Y dannadd 'na."