Tudalen:William-Jones.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydi'r unig un sy fel 'na. O, na. Mae hi'r un fath yn Hebron ac yn Siloh. A be' ydi'r risŷlt? Mi ddeuda' i wrthat ti. Pobol yn anwadal—dim dal ar neb. Dyna ti'r John Wilias 'na yn addo dwad â benthyg 'Yr Herald' imi ddydd Mawrth. Pa ddiwrnod ydi hi hiddiw? Y? Wel, mi ddeuda' i wrthat ti. Dydd Gwenar. A welis i ddim golwg o'r papur eto ..." Aeth William Jones i'r caban, gan gymryd arno mai newydd daro i mewn yr oedd.

"Ga' i ddiod o ddŵr gynnoch chi, Dafydd Morus?" "Mi gei di rywbath gwell na dŵr, William, 'machgian i." A thynnodd jwg a chwpan i lawr oddi ar silff. "Diodo lemonêd. Mi fydda' i'n dwad â dau lemon hefo mi i'r chwaral yn reit amal yn yr ha' fel hyn. ... 'Wyt ti'n 'i licio fo?"

"Reit dda, wir, Dafydd Morus."

"Ron i'n clywad dy fod ti'n hwyr at dy waith ddoe. Cysgu'n hwyr, William?"

"Y cloc-larwm ddaru stopio, ac mi gysgis tan nes oedd hi wedi'r caniad."

"O. Y wraig hefyd, William?"

"Ia. 'Dydi hi ddim hannar da."

"Y?"

"Ddim hannar da," gwaeddodd William Jones yng nghlust yr hen ŵr.

"Taw, fachgian. Nid 'i chalon hi, gobeithio?"

Nodiodd William Jones, ac yna ysgydwodd ei ben yn drist. "Cymar di ofal ohoni hi, William, 'machgian i. Yntê, Gwen fach? Dyna oedd ar Elin, y ferch 'cw, a finna'n deud y drefn wrthi hi am fethu fy neffro i amball fora. Mi rois i dafod iddi hi y bora y bu hi farw, wsti. Ond 'wyddwn i ddim 'i bod hi'n sâl, na wyddwn, Gwenno? 'Tasa' hi wedi mynd at y doctor yn lle diodda'n dawal... 'Gymeri di ddiferyn arall, William?"

"Dim, diolch, Dafydd Morus."

Dychwelodd i'w wal ac aeth ymlaen â'i hollti, er iddo fwriadu mynd i lawr i'r twll at ei bartner. Beth a ddywedasai'r doctor yna wrth Leusa, hefyd? Dweud wrthi am beidio â'i chyn- hyrfu ei hun, onid e? Daeth i'r casgliad cyn bo hir fod calon Leusa'n un bur wan, ac nad oedd yntau'n un hawdd iawn i fyw gydag ef, ac mai ei ddyletswydd oedd mynd â hi am dro Landudno drannoeth. Erbyn hanner dydd, pan ganodd