Tudalen:William-Jones.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

strydoedd. Ond wedi i Wili fynd i'r chwarel, cafodd Now Dic y maes iddo'i hun, ac er na chwarddai Enid May lawn cymaint yn ei gwmni ef, ymddangosai'n hapus ddigon.

"Heddwch i'w llwch," meddai'r llechen las o'i flaen, ond ni allai William Jones feddwl am ei fam yn mwynhau "heddwch." Er bod ei dwylo'n gignoeth bron yn nyddiau'r golchi, yr oedd yn rhaid iddi gael glanhau'r tŷ a thynnu'r llwch oddi ar y dodrefn byth a hefyd. "Y mae'n rhaid i chi fynd at Jones Drygist i gael rhywbeth at eich dwylo, Mam," fyddai sylw Meri yn aml bob gaeaf. "Ydi, Meri fach," fyddai'r ateb. "Mi a' i yno 'fory." Ond ni ddeuai'r yfory, a bodlonai Ann Jones ar rwbio lard a brwmstan i'w dwylo a cheisio lleddfu'r boen trwy eu dal o dan ei cheseiliau. Beth pe gwelai hi'r hen dŷ yn awr? gofynnodd y mab iddo'i hun—llwch yn amlwg ar bopeth, tyllau yn y matiau ac yn llenni'r ffenestri, a'r dodrefn oll yn ddi-sglein. Pa bryd oedd hi? O, ia, bore heddiw pan gododd y syllodd ar olwg tlodaidd y gegin. Ysgydwodd William Jones ei ben yn drist.

Gadawodd y fynwent a dringodd y ffordd i fyny'r Fron, gan droi cyn hir i'r llwybr a arweiniai i'r Hendre. Yno y trigai Twm Ifans, ei gyfaill pennaf. Buasai'r ddau yn bartneriaid yn y chwarel am flynyddoedd, ond cawsai Twm orchwylion ffarmwr a chwarelwr yn ormod iddo, a dewisodd ymgysegru i ofalu am y tyddyn yn unig. Gwelai William Jones ei gyfaill wrth gytiau'r ieir yng nghongl cae uwchlaw'r tŷ, a brysiodd ato. Yr oedd wrthi'n hongian cadwyn haearn o frig to un o'r cytiau.

"Mi ges lwynog yma neithiwr, fachgan," meddai, "ac mi laddodd ddeg o ieir."

"Be' wyt ti'n wneud hefo'r tsiaen 'ma ?" "Yr hen Richard Huws, yr Hafod, oedd yn pasio gynnau. Hongian tsiaen wrth y cwt, medda' fo, ydi'r peth gora' i ddychryn llwynog. Mi tria' i o, beth bynnag. Sut hwyl sy arnat ti, William ?"

"Dwad i ddeud gwd-bei wrthat ti, Twm."

"Y?"

"Dwad i ddeud gwd-bei wrthat ti."

"O? 'Wyt ti'n mynd i'r 'Mericia ?"

"I'r Sowth. 'Fory."

Adroddodd yr hanes i gyd wrth Twm Ifans, ac adwaenai hwnnw ei hen bartner yn ddigon da i wybod ei fod o ddifrif.