Tudalen:William-Jones.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI

ANHUNEDD

Ni fedrai William Jones gysgu winc. Nid am fod Leusa'n chwyrnu-yr oedd hithau'n bur anesmwyth, yn troi a throsi wrth ei ochr-ond am fod ei feddwl fel môr tymhestlog. Dyma fo, meddai wrtho'i hun, yn ŵr hanner cant a dwy â'i gorun yn foel, yn rhoi clep ar ddrws ei gartref ac yn ei gwadnu hi am y Sowth. Ped awgrymasai rhywun wrtho wythnos yn ôl fod y fath beth yn bosibl, fe ddywedasai nad oedd y proffwyd hwnnw'n hanner call. Ond yn awr Troes William Jones ar ei gefn, gan anadlu'n ddwfn a rheolaidd. Ond nid i ddim pwrpas: daliai nerfau'i ystumog i geisio sefyll ar eu pennau.

Dywedir—ni wn ar ba sail nac awdurdod-bod ei fywyd i gyd yn ymrithio drwy feddwl gŵr sydd ar foddi. Profiad felly a gâi William Jones yn ei wely: aeth eto i'r ysgol i eistedd wrth ochr Enid May, eto i droi'r mangyl i'w fam, eto i angladd ei dad, eto’n dalog i'r chwarel, eto i'r brwydrau erchyll yn Ffrainc Daria, anghofiasai ei fedal yn llwyr wrth bacio. Âi â honno gydag ef: byddai plant Meri a Chrad yn falch o'i gweld.

Daeth iddo ddarlun ohono'i hun yn gorwedd eto yn Nhir Neb rhwng ffosydd y gelyn a'r ffosydd Prydeinig. Yr oedd tri ohonynt yno yn y twll a wnaethai rhyw dân-belen yn y ddaear-ef a Mills, dyn o Lundain, a Howells, llanc o swyddog. Wrth ddwyn cyrch ar ffosydd y gelyn yn y nos, bu raid iddynt gilio'n ôl, a llusgodd y ddau ohonynt Mills i'r twll yn y ddaear. Darfu'r tanio, ac yno yr oeddynt fel llygod yn y distawrwydd wedi'r drin. Pan ddaeth y wawr, nid oedd dim amdani ond gorwedd yno heb feiddio codi eu pennau, ac ofnent bob munud y clywai'r gelyn riddfannau Mills, a glwyfwyd yn o arw. Pan dawelodd ef a syrthio i gwsg anesmwyth, treuliodd William Jones a Howells yr amser yn sibrwd hanes eu bywyd wrth ei gilydd. Gwelsai William Jones lawer ar y llanc o swyddog o gwmpas y ffosydd cyn hynny, a chlywsai ei Saesneg uchel, mursennaidd yn ei dyb ef. Rhyw sbrigyn o swyddog go haerllug fuasai ei farn amdano, a theimlai'r chwarelwr yn llai nag ef ei hun yng nghwmni pobl felly, gan fod ei Saesneg ef