Tudalen:William-Jones.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor garbwl. Dyna falch oedd i gael gweini'n brysur ar Mills, heb orfod dweud fawr fwy na "Yes, sir" neu “No, sir" wrth Howells. Ond pan syrthiodd Mills i gysgu, aeth y mudandod rhyngddynt yn beth anghysurus i'r eithaf.

"Beginning to rain, sir," meddai William Jones o'r diwedd.

"Yes ... O b'le ych chi'n dod, Jones?"

Bu bron i Jones ag eistedd i fyny'n syth, Germans neu beidio.

"O Lan-y-graig, syr, yn Sir Gaernarfon."

Ysgydwodd Howells ei ben, â gwên freuddwydiol ar ei wyneb. Buasai ef yn Llan-y-graig ddwy flynedd cyn hynny ar ei wyliau o Rydychen, yn cael amser bendigedig yn cerdded y bryniau ac yn dringo'r mynyddoedd. A adwaenai Jones fachgen o'r enw Glyn Williams yn Llan-y-graig, un a fuasai'n fyfyriwr yn Rhydychen ? Diar annwyl, fe adwaenai Jones ef yn dda iawn-hogyn Now Williams Bon Marche. Chwarddodd Howells yn dawel wrth gofio Glyn yn dynwared pregethwyr yn y "Dafydd," fel y galwai Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Siaradodd lawer am Glyn ac yntau yn Rhydychen—am feicio drwy'r wlad oddi amgylch, am fechgyn diddorol yn y gwahanol golegau, am brynhawniau heulog ar yr afon. Yna aeth i sôn am ei gartref, yng Nghwm Rhondda, am y côr yr oedd ei dad yn arweinydd arno, am, ei frawd a chwaraeai Rygbi tros ysgolion Cymru, am ei chwaer a enillasai ar ganu mewn llawer eisteddfod. Ond yn fwyaf oll, am ei fam, y wraig fach orau yn y byd. Gwelai William Jones y rhoddai'r parablu ryddhad mawr i'r bachgen, a phorthodd ef â chwestiynau. Tywalltai'r glaw arnynt, crynent yn yr oerni, a chloai'r gorwedd disymud, llechwraidd, bob cymal yn eu cyrff, ond llithrodd yr oriau heibio'n gymharol gyflym mewn atgofion melys. Eglurodd William Jones sut yr oedd rhwygo craig a hollti a naddu, a chafodd hwyl ar ddarlunio rhai o gymeriadau od y chwarel. Yn wir, petai hi'n dywydd braf, a phetai ganddynt fwyd a hawl i gael smôc, byddai'r diwrnod yn un hapus.

Deffroes Mills tua diwedd y prynhawn, gan ddechrau griddfan yn uchel eto, ond yn ffodus, aildaniai'r gynnau mawrion erbyn hynny. Rhoesant ddŵr iddo i'w yfed a cheisio'i wneud mor esmwyth ag yr oedd modd, ond yr oedd yn amlwg fod rhyw dwymyn ffyrnig yn gafael ynddo, ac anodd fu ei gadw'n llonydd ar lawr y twll. Mawr yr edmygai William Jones amynedd tawel y bachgen o Gwm Rhondda, a rhyfeddai