Tudalen:William-Jones.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn-a-hwn yn bur fanwl i Fargiad Roberts. Pan gaeënt y siop am hanner diwrnod, âi Jim a'i wraig â hwy oll am dro i weld gogoniant y dref a'r dociau, ond hyd yn oed yng nghanol twrf Lime Street, am Lan-y-graig yr oedd y sgwrs. Câi Wili a Meri ddigon o geiniogau i'w gwario, wrth gwrs, a chyfle i rythu ar siopau a thramiau a threnau trydan, ond darn gorau'r wythnos i Richard ac Ann Jones oedd y siwrnai adref, ef yn dyfalu sut yr aethai pethau yn y Bonc Lydan a hithau'n gobeithio i Feic y Cigydd gadw tamaid o lamb iddi ar gyfer y Sul. Er hynny, pan ddeuai'r haf wedyn, dyna bacio'r hen fasged wellt eto a chychwyn am Lerpwl a rhyw her anturiaethus yn llygaid y rhieni, ac yn eu trem, pan lifai'r don o Saesneg tuag atynt ar ben eu taith, y gwg a'r elyniaeth a ddywedai y dylai pawb yn y lle roi'r gorau i'w cybôl a siarad Cymraeg

Ei fedal. A oedd rhywbeth arall y dylai ei daro yn y fasged? Ei Feibl. Rhyfedd iddo anghofio'i Feibl. Âi â'r Beibl bach hwnnw a gawsai'n anrheg gan y capel pan ymunodd â'r Fyddin. Teimlai William Jones, ar ei ochr yn ei wely, yn dawelach ei feddwl ar ôl iddo benderfynu mynd â'i Feibl i'r Sowth; yn ŵr pur grefyddol.

Ni ddarllenai'r llyfr, dim ond yn nosbarth Wmffra Roberts yn yr Ysgol Sul, ond gwyddai fod ynddo wirioneddau mawr, sylfaenol, arhosol, a gallai adrodd rhai penodau pan oedd yn hogyn. Rhyw lyfr go sych a fuasai'r Beibl i William Jones, a dweud y gwir, yr un yr oedd yn rhaid iddo ddysgu adnodau ohono ar gyfer y Seiat, yr un y buasai pob athro Ysgol Sul a gawsai yn hollti blew wrth chwilio am ystyr ei eiriau, yr un a ddarllenai Lloyd y Gweinidog bob amser mewn llais angladdol, yr un y dyfynnai'r hen ragrithiwr Isaac Davies, tad Leusa, mor rhwydd ohono. Na, nid oedd yn hoff o'r Beibl, ond teimlai y dylai ei gludo fel rhyw swyn cyfrin yng nghornel y fasged wellt. Beth bynnag a ddigwyddai iddo ar y daith neu yn y Sowth, gallai ddweud bod ei Feibl ganddo.

Ac wrth feddwl am ei Feibl, daeth iddo ddarlun o'r Hen Gron.

Clocsiwr oedd yr Hen Gron, yn byw y drws nesaf iddynt pan oedd William Jones yn ifanc. Dyn llwyd, esgyrniog, tros ei chwe throedfedd o daldra. O daldra? Nage, o hyd, gan fod hanner uchaf ei gorff bron yn gyd-wastad â'r llawr. Pan godai i bwnio'r tân neu i gymryd rhywbeth oddi ar y silff