Tudalen:William-Jones.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ta." Cynigiodd un i William Jones hefyd, ond ysgyd- wodd ef ei ben, gan ddangos ei bibell. Nid oedd Twm yn ysmygwr.

"Be' ddigwyddws dydd Merchar ym Mhontypridd, Jim?" gofynnodd Shinc wrth estyn matsen olau tua pherchennog y milgi. "Wedast ti fod y ras honno'n sure thing."

"Jiw, yr hen fenyw, fy mam, bachan."

"Be'?"

"Wedi 'i ffido fa lan ar y slei, bois. Ffagots, myn yffarn i, Twm! 'Roedd a'n ffaelu cyffro. Rhedag? Mi fasa' cart chips y Brachi yn 'i baso fa. Ond ma' fa mewn trim 'eddi', ond wyt ti, Mic bach? Fydd dim ci yn Nhre Glo all 'i wynto fa 'eno, Shinc. Fe fydd y ras drosodd cyn iddyn' nhw godi 'u clustia', bachan. Jiw, 'sa ti'n 'i weld a ar y mynydd 'na bora 'ma!"

Treuliwyd y pum munud nesaf yn olrhain hanes Mic, y milgi mwyaf gobeithiol yn y byd er i brofedigaethau lu ei gadw rhag ennill un ras hyd hynny. Ond yr oedd ei awr ar ddyfod.

Gan nad oedd fawr ddim gwerth yn ei farn ar gŵn, suddodd William Jones yn ôl i'r gornel i wylio'r tri gŵr rhyfedd hyn. Byr oedd y tri, ac nid oedd llawer o raen ar eu gwisgoedd. Ni ellid yn hawdd ddarganfod dau mor annhebyg â Shinc a Jim, un yn denau a nerfus a llym, a'r llall yn dew a di-hîd ac uchel ei sŵn. Cadwai Jim ei sigaret rhwng ei wefusau, gan siarad pymtheg y dwsin heibio iddi, ond daliai Shinc hi rhwng ei fysedd, gan dynnu'n chwyrn arni pan drawai hi yn ei geg. Ni chwarddai ef, dim ond taflu ei ben a gwenu braidd yn sur weithiau. Prin y gwelsai William Jones neb erioed ag wyneb mor fain : "fel rasal," meddai wrtho'i hun. Ymddangosai Jim, ar yr olwg gyntaf, yn weddol lewyrchus, â modrwy ar ei fys bach a thei lliwiog yn hongian allan tros ei wasgod, ond dywedai ei esgidiau a gwaelod ei lodrau a dwy lawes ei gôt mai twyllodrus oedd awgrym y fodrwy a'r tei. Yr oedd Twm hefyd yn gymharol dew a llon, ac ef a borthai barablu cyflym perchennog y ci. Tybiai William Jones fod y llodrau gwlanen a wisgai braidd yn rhy olau a llydain i ŵr o'i oed ef; yr oedd tros ei hanner cant a'r gwallt o dan yr het lwyd ddi-lun bron yn wyn. Prin y gallai ddychmygu Bob Gruffydd na hyd yn oed Dic Trombôn yn gwisgo trowsus fel 'na, ond yr oedd llawer o rodres o gwmpas gwŷr y De,