Tudalen:William-Jones.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

onid oedd? Ni wyddai William Jones mai anrheg gan ryw gymdeithas ddyngarol oedd y trowsus urddasol hwnnw.

Wedi iddynt ddechrau blino ar sôn am yrfa ddisglair Mic, eglurodd Twm mai Gogleddwr oedd y "bachan diarth."

"Dod i whilo am waith yn Nymbar Wan, Jim," meddai Shinc yn ei ffordd dawel, sych.

Chwarddodd Jim eto'n hir ac uchel. Dyna fachan oedd Shinc! meddai. Cododd y milgi ei ben a dechreuodd yntau wenu-neu felly y tybiai William Jones.

"Nid jocan 'wy' i, bachan," meddai Shinc. "Ma' fa 'di dod bob cam o Sir Gaernarfon i whilo am jobyn ym Mryn Glo. Ffact."

Edrychodd Jim droeon ar William Jones ac ar Shinc bob yn ail mewn dygn ansicrwydd. Teimlai'r chwarelwr yn bur anghysurus ac ni wyddai pa un ai gwenu a nodio neu wgu a fyddai orau. Gwenodd.

"Oes cŵn lled dda 'da chi lan 'na?" gofynnodd Jim yn penderfynu newid y stori.

Ni wyddai William Jones, gan na welsai ef ras erioed. Eglurodd mai garddio oedd ei adloniant ef. Troes Twm ei ben o'r ffenestr â diddordeb mawr.

"Lotment, sbo?" gofynnodd.

"Na, tipyn o ardd yng nghefn y tŷ."

Nesai'r trên at Fryn Glo a phwyntiodd Twm tua'r allotments ar y llethr islaw'r tip. Yno y treuliai ef a Shinc y rhan fwyaf o'u hamser, meddai, ac i lawr i farchnad y dref y buasent y prynhawn hwnnw i chwilio am fresych ifainc i'w plannu lle buasai'r tatws cynnar. Y cwbl wedi eu gwerthu allan, ond cawsent addewid am rai yr wythnos wedyn. A driodd William Jones dyfu tomatos o gwbl? Sut hwyl a gawsai ar y pys a'r ffa eleni? A ddechreuasai dynnu'r kidney beans eto? Cytunai'r tri'n ddwys fod eisiau glaw yn o arw.

Rhuglodd y trên i mewn i orsaf Bryn Glo. Y nefoedd, dyma le! meddai William Jones wrtho'i hun, gan syllu ar y tipiau glo'n gwyro'n dywyll uwch culni'r cwm. Cododd i estyn ei fasged oddi ar silff y cerbyd, ond gwthiodd Shinc ef o'r neilltu. Fe gariai ef y fasged, meddai.

Yr oedd tri'n aros i groesawu William Jones yn yr orsaf—Crad ac Arfon, ei fachgen, ac Eleri, ei ferch. Ceisiodd Crad gymryd y fasged oddi ar Shinc, ond ymaith â hwnnw a'i gyfaill gyda hi yn fân ac yn fuan tra oedd ef yn ysgwyd llaw