Tudalen:William-Jones.djvu/79

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ia, wir, fachgan," meddai drachefn, wrth sylwi ar wŷr o bob oed yn loetran hyd yr ystryd. Yr oedd y lle hwn yn ei ddychrynu braidd.

Aethant heibio i Glwb swnllyd ag ynddo lawer o chwerthin a siarad a rhai lleisiau'n canu, ac yna sylwodd William Jones ddwy ddafad fudr a grwydrai'r ystryd o'u blaenau, gan wthio'u trwynau i bobman. Ni welsai ef erioed ddefaid yn crwydro o'r mynydd yn Llan-y-graig i hel eu tamaid hyd yr ystrydoedd. Y syndod oedd na chymerai na phobl na chŵn sylw yn y byd ohonynt.

Atebai Crad ac Arfon gyfarchion rhywrai byth a hefyd fel y cerddent ymlaen, a thybiai William Jones i'w frawd yng nghyfraith a'r hogyn droi'n swagrwyr tebyg i bobl y lle anwaraidd hwn. Yna dechreuasant ddringo'r llethr, ac ni hoffai o gwbl yr heolydd tlawd, anorffen, a fforchiai o'r neilltu. Araf y cerddent, a sylwodd fod Crad yn anadlu braidd yn drwm. Troesant ar y dde cyn hir, a gwelai eu bod yn Nelson Street. Safai cerbyd ice-cream ar fin y ffordd ac o'i amgylch y dyrfa o blant a chŵn, ac ar y palmant oedai gwraig fawr, dafodrydd, flêr, yn magu baban gwichlyd mewn siôl a fuasai'n wen unwaith, ac yn gwisgo am ei phen gap ei gŵr. Gwenodd ar William Jones, ac yna nodiodd yn awgrymog tua chymydog a ddeuai allan o dŷ tros y ffordd.

"Dyn diarth o off, sbo!" meddai ymhen ennyd. "S odd. 'da fi gwpwl o docins yn fy mhoced, i Barry Island elwn i am wthnos yn lle aros yn y twll 'ma." Taflodd Crad winc fawr ar William Jones, a cheisiodd yntau fwynhau'r digrifwch.

Edrychai pob tŷ fel ei gilydd, y llwch glo'n ddu ar eu cerrig llwyd; rhyw bot rhedyn mawr yn ffenestr pob parlwr, a'r ffenestri a'r drysau oll yn dyheu am baent. Ond sylwodd William Jones, er hynny, fod y ffenestri a'r llenni'n lân iawn, a bod cerrig y drws a rhyw hanner cylch ar y palmant o'u blaenau wedi'u sgwrio'n wyn, ac y disgleiriai'r darnau o bres ar bob drws yn llachar yn yr haul. Rhyfedd, meddai wrtho'i hun, fod rhyw lendid fel yna'n blodeuo yng nghanol yr hagrwch hwn. Tipyn o rodres, efallai.

Yr oedd yn dda ganddo gael troi i mewn i'r tŷ, a gwelai ar unwaith fod croeso mawr yn ei ddisgwyl-y gegin fel pin mewn papur a gwledd yn ei aros ar y bwrdd. Diolchai William Jones fod ei chwaer yn esiampi dda i'r bobl ddifater a gwyllt o'i chwmpas, yn dangos iddynt sut i lanhau tŷ a