Tudalen:William-Jones.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae chweugain yn llawn digon, os mai penderfynu aros wnei di."

"Punt, a dim dima'n llai," oedd ateb William Jones, gan swnio'n herfeiddiol.

"Mi wyddost fod dyn y Means Test yn galw yma unwaith bob mis, William," meddai Crad, "ac mi gymer o yr ail chweugain allan o'n dole ni, wsti."

"Dydi o ddim o fusnas hwnnw be' fydd William yn 'i dalu inni," meddai Meri'n chwyrn. "Mi dorrwn ni'r ddadl drwy gytuno ar bymthag swllt." Troes ymaith i fynd ymlaen â'i gwaith yn y gegin fach. "Yr hen gnawas iddi," chwanegodd. "Mi ddeudis i ddigon wrthat ti cyn iti 'i phriodi hi."

Daeth Eleri i mewn, ac yr oedd hi wrth ei bodd pan ddeallodd i Wncwl William ddyfod atynt "am byth." Ond yr oedd Wili John yn ddigon dwys i ofyn y cwestiwn, "B'le ych chi'n mynd i witho, Wncwl?" Eglurodd ei ewythr iddo benderfynu byw ar ei arian am dipyn, a mawr oedd edmygedd y bachgen o ŵr a allai fforddio hynny. Dyna a wnâi yntau hefyd pan dyfai'n ddyn a chael ei siop gigydd ei hun, ond i rywle fel Barry Island yr âi ef.

Eisteddasant wrth y bwrdd i gael swper, a dechreuodd William Jones adrodd hanes y profedigaethau a ddaethai i ran rhyw hen chwarelwr duwiol o Lan-y-graig o'r enw Richard Ifans. Yr oedd hi'n stori drist iawn—yr hen frawd yn colli ei ferch a gadwai dŷ iddo, yna'n mynd yn ddall ac i fethu gweithio ac yn y diwedd i dorri ei galon yn y wyrcws. Cadwai Crad ei wyneb oddi wrth y siaradwr, ond clywai William Jones a'i chwaer ryw ebychiadau go swnllyd yn dianc o'i enau. A oedd hanes yr hen Richard Ifans yn ormod iddo, tybed?. Yna, pan gyrhaeddodd William Jones fan tristaf y stori, darlun o'r hen frawd yn cael ei arwain o'i dŷ i gychwyn i'r wyrcws, rhoes Crad ei ben ar ei fraich i feichio wylo. Syllodd William Jones arno mewn braw, ond canfu Meri'r wên yn llygaid Eleri.

"Crad!" meddai, yn bur ddig. Cododd yntau ei ben, yn wên i gyd.

"Rhaid iti faddau imi, William," meddai. "Ond mi fydda' i'n chwerthin yn fy nghwsg heno. Meddwl am yr hyn ddeudist ti am y chips!"

"Be' 'wedodd Wncwl William am y chips, Dada?" gofyn nodd Eleri.