Tudalen:William-Jones.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brith a'i wyneb dwys yn gwneud iddo ymddangos rai blynyddoedd yn hŷn na hynny. Wyneb tenau, cerfiedig; llygaid treiddgar, anniddig; talcen uchel, llydan; gwefusau go lawn, a llawer o chwerthin ynghudd ynddynt; gên gul, benderfynol—nid rhyfedd bod Crad yn edmygu'r dyn hwn, meddai William Jones wrtho'i hun. Yr oedd cywirdeb ac onestrwydd yn amlwg ynddo, ym mhob edrychiad ac osgo; ni thwyllai hwn mohonoch hyd yn oed ag ystum, ac nid yn hawdd y twyllech chwithau'r llygaid byw a chraff hynny. Wedi blynyddoedd yng nghysgod brawdgarwch diog Edward Lloyd, awdur a pherffeithydd pob cyfaddawd, ni fedrai William Jones ddygymod am funud ag ynni anesmwyth y gŵr o'i flaen. Arafwch duwiol, addfwynder cysglyd, a swnian pregethwrol oedd ei syniad ef o weinidog, a phan lefarai'r oracl i gyhoeddi'r emyn "tru chant tru deg a thru," gofalai wneud hynny mewn tôn annaearol. Ond yn syml a chywir y lediai hwn yr emyn cyntaf, heb affliw o gŵyn na chryndod yn ei lais. Felly y darllenai William Jones ei hun y geiriau, ac yr oedd hi'n amlwg nad oedd y John Rogers 'ma'n llawer o bregethwr. Rhodres oedd ymwrthod â rhodres fel hyn, a dyna, efallai, paham yr oedd Crad yn ei barchu. Yr oedd twyllo Crad yn waith go hawdd, meddai William Jones wrtho'i hun. Ac eto ...

Felly hefyd y darllenodd y pregethwr y bennod ar Ddoethineb o Lyfr Job. Clywsai William Jones Mr. Lloyd yn darllen y bennod honno droeon, a'i lais cwynfanllyd a chrynedig yn canu fod "llwybr nad adnabu aderyn ac ni chanfu llygad barcud" ac yna, fel petai ar foddi ac yn ymestyn am gangen i hongian wrthi, yn galw'n ymbilgar, "Pa le y ceir doethineb?" Ond codi ei ben o'i Feibl a wnâi'r dyn hwn, a syllu'n ddifrifol o amgylch ei gynulleidfa wrth ofyn y cwestiwn. Pan droes ei lygaid treiddgar i'w gyfeiriad ef, dechreuodd William Jones feddwl yn wyllt ym mha le yr oedd Doethineb, rhag ofn y byddai'n rhaid iddo ateb ar goedd. "Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi," meddai llais tawel Mr. Rogers, "ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyd â myfi. Ni cheir hi er aur pur, ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian. Ni chyffelybir hi i'r aur o Ophir, nac i'r onix gwerthfawr, nac i'r saphir. Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi ..." Felly y pentyrrai'r llais clir gyfoeth ar gyfoeth, ac yna cododd y pregethwr ei ben i syllu