Tudalen:William-Jones.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond trwy'r esgyrn y cludid llais y dyn ei hun i'w ymwybyddiaeth, ond mai â'r glust y gwrandawai ar bawb arall. Wel, yr oedd esgyrn Richard Ifans a rhai Leusa'n hollol ddideimlad erbyn hyn... Rhoes William Jones y meddyliau hyn o'r neilltu wrth godi i ganu'r emyn cyntaf ac i gydio yn y llyfr a ddaliai Eleri iddo. Gwelai ryw ddyn yn y sedd o'i flaen. yn sgwario'i ysgwyddau ac yn taro'i fawd yn mhoced ei was- god. 'Roedd ganddo feddwl ohono'i hun fel tipyn o ganwr, yr oedd hi'n amlwg, a mingamodd William Jones wrth edrych arno. Go debyg yr ymddangosai ei wraig, a safai wrth ei ochr, a'r gŵr bychan wynepgoch yng nghanol y sedd a'r dyn tal a thenau yn y sedd o'u blaen. Ond dyna nhw, rhai powld fel ’na oedd pobl y Sowth, onid e?... Tawodd yr organ a chododd David Morgan, yr arweinydd, ei law. Agorodd William Jones ei geg i ganu'n beiriannol ac isel fel y gwnâi yn Llan-y-graig, ond ymhen ennyd troes ei ben i wrando ar y lleisiau o'i amgylch yn ymdoddi i'w gilydd ac i syllu’n syn ar yr eiddgarwch a lanwai'r wynebau. Clywai'r pedwar llais yn gynghanedd felys a'r dôn yn ymchwyddo ac yn tawelu, yn cyflymu ac yn arafu, mewn ufudd-dod i'r llaw a arweiniai. Rhoes William Jones yntau ei fawd ym mhoced ei wasgod a sgwariodd ei ysgwyddau. Onid oedd yntau'n denor? Oedd, yn llawn cystal tenor â'r dyn o'i flaen. Diawch, mae'r hen William yn medru canu, meddai Crad wrtho'i hun.

Yn ei weddi, diolchodd Mr. Rogers am y nerth a'r gwroldeb a flodeuai o'u hamgylch yng nghanol tlodi a chyni, am y sirioldeb na allai angen ei lesteirio. Tlodi a chyni? Ond nid oedd Crad a Meri a'r plant yn dlawd. Cofiodd William Jones y te ardderchog a gawsai ar ôl cyrraedd y diwrnod cynt, y swper blasus, y cinio bendigedig pan ddaethai o'r capel y bore hwnnw, y te... "Diolchwn, o Dad," meddai llais y pregethwr, "nad gofidio a llefain y mae Dy blant yn eu had- fyd, gan blethu eu dwylo mewn anobaith. Diolchwn am ddewrder y wên ar eu hwynebau, am y lleisiau sy'n ymddangos mor llon er gwaethaf drygfyd, am y llygaid di-syfl, am y dwylo parod, caredig." Ymddangos? Daria'r gair, yn mynnu'i ailadrodd ei hun fel hyn. Beth fuasai'r cytundeb rhyngddynt y noson gynt, hefyd ? O, ia, pymtheg swllt. Na, punt amdani, punt neu ddim. Ac am y tro cyntaf yn ei fywyd dywedodd William Jones Amen, er na wyddai'n iawn am beth. Aeth pen Crad i fyny mewn braw, a syllodd yn geg-agored