dyn yn ddrwg o'i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22 Pryd hau, a chynhauaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gauaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.
PENNOD IX.
1 Duw yn bendithio Noah; 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfammod Duw, 13 a arwyddoccêir trwy yr enfys. 18 Noah yn llenwi y byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melldigo Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddïo dros Japheth, 29 ac yn marw.
DUW hefyd a fendithiodd Noah a'i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
2 Eich ofn hefyd a'ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a'r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
3 Pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4 ¶ Er hynny na fwyttêwch gig ynghyd â'i einioes, sef ei waed.
5 Ac yn ddïau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynaf fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynaf einioes dyn.
6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, o herwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn.
7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhêwch, eppiliwch ar y ddaear, a llïosogwch ynddi.
8 A DUW a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gyd âg ef, gan ddywedyd,
9 Ac wele myfi, ïe myfi, ydwyf yn cadarnhâu fy nghyfammod â chwi, ac â'ch had ar eich ol chwi;
10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyd â chwi, â'r ehediaid, â'r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyd â chwi, o'r rhai oll sydd yn myned allan o'r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
11 A mi a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni bydd diluw mwy i ddifetha'r ddaear.
12 A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw a'r y sydd gyd â chwi, tros oesoedd tragywyddol:
13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a'r ddaear.
14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmmwl.
15 A mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pob cnawd.
16 A'r bwa a fydd yn y cwmmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tragywyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
17 A DUW a ddywedodd wrth Noah, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
18 ¶ A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Japheth; a Cham oedd dad Canaan.
19 Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20 A Noah a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21 Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd y'nghanol ei babell.
22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.
23 A chymmerodd Sem a Japheth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
24 A Noah a ddeffrôdd o'i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25 Ac efe a ddywedodd, Melldigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.
26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27 DUW a helaetha ar Japheth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28 ¶ A Noah a fu fyw wedi y diluw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.
29 Felly holl ddyddiau Noah oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.
PENNOD X.
1 Cenhedlaethau Noah. 2 Meibion Japheth. 6 Meibion Cham. 8 Nimrod y brenhin cyntaf. 21 Meibion Sem.
A DYMA genhedlaethau meibion Noah: Sem, Cham, a Japheth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi y diluw.
2 ¶ Meibion Japheth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riphath, a Thogarmah.
4 A meibion Jafan; Elisah, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5 O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6 ¶ A meibion Cham oedd Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.
7 A meibion Cus; Seba, a Hafilah, a Sabta, a Raamah, a Sabteca: a meibion Raamah; Seba, a Dedan.
8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr ARGLWYDD: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD.
10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, y'ngwlad Sinar.
11 O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefeh, a dinas Rehoboth, a Chalah,
12 A Resen, rhwng Ninefeh a Chalah; honno sydd ddinas fawr.
13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim,
14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chaphtorim.
15 ¶ Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
16 A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
17 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
18 A'r Arfadiad a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gazah; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorrah, ac Admah, a Seboim, hyd Lesah.