a'i fam a gymmerodd iddo ef wraig o wlad yr Aipht.
22 ¶ Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant âg Abraham, gan ddywedyd, DUW sydd gyd â thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i DDUW, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i'm mab, nac i'm hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddyw.
27 Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.
29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymmeri y saith hesbin o'm llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
33 ¶ Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr ARGLWYDD DDUW tragwyddol.
34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.
PENNOD XXII.
Profi Abraham i aberthu ei fab. 3 Yntau yn dangos ei ffydd a'i ufudd-dod. 11 Yr angel yn ei rwystro ef. 13 Newid Isaac am hwrdd. 14 Galw y lle Jehofah-jire. 15 Bendithio Abraham drachefn. 20 Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeccah.
AC wedi'r pethau hyn y bu i DDUW brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
2 Yna y dywedodd DUW, Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o'r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
3 ¶ Ac Abraham a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd âg ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i'r lle a ddywedasai DUW wrtho.
4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai y lle o hirbell.
5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau, Arhoswch chwi yma gyd â'r asyn; a mi a'r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.
6 Yna y cymmerth Abraham goed y poeth-offrwm, ac a'i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymmerodd y tân, a'r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.
7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poeth-offrwm?
8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, DUW a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:
9 Ac a ddaethant i'r lle a ddywedasai DUW wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a'i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.
10 Ac Abraham a estynodd ei law, ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fab;
11 Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni DUW, gan nad atteliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.
13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o'i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a'i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH-jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr ARGLWYDD y gwelir.
15 ¶ Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd ar Abraham yr ail waith o'r nefoedd;
16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig fab:
17 Mai gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a'th had a feddianna borth ei elynion;
18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.
20 ¶ Darfu hefyd, wedi y pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milcah hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;
21 Hus ei gyntaf-anedig, a Buz ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,
22 A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel.
23 A Bethuel a genhedlodd Rebeccah: yr wyth hyn a blantodd Milcah i Nachor brawd Abraham.
24 Ei ordderch-wraig hefyd, a'i henw Reumah, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maachah.
PENNOD XXIII.
Oedran a marwolaeth Sarah. 3 Prynu Machpelah, 19 lle y claddwyd Sarah.
Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sarah.
2 A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sarah, ac i wylofain am dani hi.
3 ¶ Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei gorph marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
4 Dïeithr ac alltud ydwyf fi gyd â chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyd â chwi, fel y claddwyf fy marw allan o'm golwg.