Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/368

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLYFR

Y

PSALMAU

PSALM I.

1 Dedwyddwch y duwiol. 4 Annedwyddwch yr annuwiol.

GWYN ei fyd y gwr ni rodia y'nghynghor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.

2 Ond sydd â'i ewyllys y'nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.

3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a'i ddalen ni wywa, a pha beth bynnag a wnel, efe a lwydda.

4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel inân us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.

5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farm, na phechaduriaid yng nghynnulleidfa y rhai cyfiawn.

6 Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.


PSALM II.

1 Brenhiniaeth Crist. 10 A chynghori bren hinoedd i'w derbyn.

PAHAM y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?

2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a'r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,

3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.

4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a'u gwatwar hwynt.

5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.

6 Minnau a osodais fy Mrenhin ar Sïon fy mynydd sanctaidd.

7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddyw a'th genhedlais.

8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant.

9 Drylli hwynt â gwïalen haiarn; maluri hwynt fel llestr pridd.

10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymmerwch ddysg.

11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhêwch mewn dychryn.

12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lid ef, ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.



PSALM III.

Diogelwch, nawdd, ac amddiffyn Duw.
Psalm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.

ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr? llawer yw y rhai sydd yn codi i'm herbyn.

2 Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Selah.

3 Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.

4 A'm llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Selah.

5 Mi a orweddais, ac a gysgais; ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a'm cynhaliodd.

6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.

7 Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy Nuw: canys tarewaist fy holl elynion ar garr yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.

8 Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.



PSALM IV.

1 Dafydd yn gweddio ar gael ei wrando: 2 yn ceryddu, ac yn cynghori ei elynion. 6 Yn ffafr Duw y mae dedwyddwch dyn.
I'r Pencerdd ar Neginoth, Psalm Dafydd.

GWRANDO fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarhâ wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.

2 O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.

3 Ond gwybyddwch i'r ARGLWYDD neillduo y duwiol iddo ei hun: yr ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno.

4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddidden wet. â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah. 5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.

6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.

7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy nâ'r amser yr amlhâodd eu hyd a'u gwin hwynt.

8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.



PSALM V.

1 Dafydd yn gweddio, ac yn datgan ei ddiwydrwydd yn gweddio. 4 Ni ffafria Duw yr enwir. 7 Dafydd yn dangos ei ffydd, ac yn gweddio ar Dduw am ei gyfarwyddo ef, 10 a difetha ei elynion, 11 a chadw y duwiol.

I'r Pencerdd ar Nehiloth, Psalm Dafydd.

GWRANDO fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.

2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenhin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.

3 Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi attat, ac yr edrychaf i fynu.

4 O herwydd nid wyt ti DDuw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyd â thi. 5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caséalst holl weithredwyr anwiredd.

6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a flieiddia y gwr gwaedlyd a'r twyllodrus.

7 A minnau a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tu a'th deml sanctaidd yn dy ofn di.