Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/369

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o'm blaen.

9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu cég; gwenhieithiant â'u tafod.

10 Distrywia hwynt, O DDUW; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyrr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i'th erbyn.

11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafar-ganant yn dragywydd; am i ti orchuddio drostynt: a'r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.

12 Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.


PSALM VI.

1 Achwynion Dafydd yn ei glefyd. 8 Y mae efe trwy ffydd yn ymorfoleddu ar ei elynion.
I'r pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Psalm Dafydd.

ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chospa fi yn dy lid.

2 Trugarhâ wrthyf, ARGLWYDD; canys llesg ydwyf fi:
iachâ fi, O ARGLWYDD; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.

3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr:tithau, ARGLWYDD, pa hyd?

4 Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5 Canys yn angau nid oes goffa am danat: yn y bedd pwy a'th folianna?

6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa:
yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â'm dagrau.

7 Treuliodd fy llygad gan ddigter: heneiddiodd o herwydd fy holl elynion.

8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd:
canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.

9 Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad:
yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.

10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion:
dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymmwth.



PSALM VII.

1 Dafydd yn gweddio yn erbyn malais ei elynion, ac yn dangos ei wiriondeb; 10 a thrwy fydd yn gweled yr amddiffynnid ef, ac y difethid ei elynion.
Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i'r ARGLWYDD oblegid geiriau Cus mab Jemini.

ARGLWYDD fy Nuw, ynot yr ymddiriedais achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi.

2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.

3 O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylaw;

4 O thelais ddrwg i'r neb oedd heddychol a mi (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos)

5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded:
sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Selah.

6 Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddigllonedd, ymddyrcha, o herwydd llid fy ngelynion:
deffro hefyd drosof i'r farn a orchymynaist.

7 Felly cynnulleidfa y bobloedd a'th amgylchynant er eu mwyn dychwel dithau i'r uchelder.

8 Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd:
barn fi, O ARGLWYDD, yn ol fy nghyfiawnder, ac yn ol fy mherffeithrwydd sydd ynof.

9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn:
canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a'r arennau.

10 Fy ymddiffyn sydd o DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.

11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol.

12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf:
efe a annelodd ei fwa, ac a'i parottodd.

13 Parottôdd hefyd iddo arfau angheuol:
efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.

14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.

15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.

16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a'i draha a ddisgyn ar ei goppa ei hun.

17 Clodforaf yr ARGLWYDD yn ol ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.



PSALM VIII.

Mawrygu gogoniant Duw, wrth ei weithredoedd, ac wrth ei gariad tu ag at ddyn.
I'r Pencerdd ar Gittith, Psalm Dafydd.

ARGLWYDD ein Ior ni, mor ardderchawg yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.

2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a'r ymddïalydd.

3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist;

4 Pa beth yw dyn, i ti i'w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled âg ef.

5 Canys gwnaethost ef ychydig is na'r angelion, ac a'i coronaist â gogoniant ac a harddwch.

6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylaw;
gosodaist bob peth dan ei draed ef:

7 Defaid ac ychain oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;

8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.

9 ARGLWYDD ein IOR, mor ardderchawg yw dy enw ar yr holl ddaear!



PSALM IX.


1 Dafydd yn moliannu Duw am wneuthur barn; 11 ac yn annog eraill i'w glodfori ef, 13 ac yn gweddio ar iddo gael achos i'w foliannu ef
I'r Pencerdd at Muth-labben, Psalm Dafydd.



CLODFORAF di, O ARGLWYDD, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goruchaf.

3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hol, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc, gan farnu yn gyfiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddilëaist byth bythol.

6 Ha elyn, darfu am ddinystr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyd â hwynt.

7 Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a barottôdd ei orsedd-faingc i farn.