PENNOD XX.
1 Y deg gorchymyn. 18 Y bobl yn ofni. 20 Moses yn eu cysuro hwy. 22 Gwahardd gaudduwiaeth. 24 Portreiad yr allor.
A DUW a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,
2 Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a'th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear.
5 Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;
6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
7 Na chymmer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dïeuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
8 Cofia y dydd Sabbath, i'w sancteiddio ef.
9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
10 Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaeth-ferch, na'th anifail, na'th ddïeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
11 O herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Sabbath, ac a'i sancteiddiodd ef.
12 ¶ Anrhydedda dy dad a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.
13 Na ladd.
14 Na wna odineb.
15 Na ladratta.
16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
17 Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaeth-ferch, na'i ŷch, na'i asyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymmydog.
18 ¶ A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr udgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.
19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandâwn: ond na lefared DUW wrthym, rhag i ni farw.
20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; o herwydd i'ch profi chwi y daeth DUW, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.
21 A safodd y bobl o hirbell; a nesâodd Mosss i'r tywyllwch, lle yr ydoedd DUW.
22 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywededd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.
23 Na wnewch gyd â mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24 ¶ Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boeth-ebyrth a'th offrymmau hedd, dy ddefaid, a'th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf attat, ac y'th fendithiaf.
25 Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gottech dy forthwyl arni, ti a'i halogaist hi.
26 Ac na ddos i fynu ar hyd grisiau i'm hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.
2
PENNOD XXI.
Cyfreithiau gweision. 5 Am y gwas a dyller ei glust. 7 Am forwynion. 12 Am lofruddiaeth. 16 Am ladron dynion. 17 Am y rhai a felldithio eu rhïeni. 18 Am darawyr. 22 Am friw damwain. 28 Am ŷch a gornio. 33 Am yr hwn a fo achos o niwed i eraill.
Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.
2 Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a'r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.
3 Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gyd âg ef.
4 Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a'i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.
5 Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a'm plant, nid âf fi allan yn rhydd:
6 Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddor, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a'i gwasanaetha ef byth.
7 ¶ Ac os gwerth gwr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.
8 Os heb ryglyddu bodd y'ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a'i cymmerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddïeithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.
9 Ac os i'w fab y dyweddïodd efe hi, gwnaed iddi yn ol deddf y merched.
10 Ac os arall a brïoda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na'i dyled prïodas.
11 Ac os y tri hyn nis gwna efe
iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12 ¶ Rhodder i farwolaeth y neb a darawo wr, fel y byddo marw.
13 Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o DDUW ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.
14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymmydog, i'w ladd ef trwy dwyll; cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15 ¶ Y neb a darawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
16 ¶ Yr hwn a ladrattao ddyn, ac a'i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.
17 ¶ Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei dad, neu ei fam.
18 ¶ A phan ymrysono dynion, a tharo o'r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;
19 Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y tarawydd a fydd dïangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.
20 ¶ Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaeth-ferch, â gwïalen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddïal dïaler arno.
21 Ond os erys ddiwr-