Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nod, neu ddau ddiwrnod, na ddïaler arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22 ¶ Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gospi cosper ef, fel y gosodo gwr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.

23 Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25 Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

26 ¶ Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaeth-ferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

27 Ac os tyrr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaeth-ferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

28 ¶ Ac os ŷch a gornia wr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwyttâer ei gig ef; ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.

29 Ond os yr ŷch oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i'w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd o hono wr neu wraig: yr ŷch a labyddir, a'i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.

30 Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ol yr hyn oll a osoder arno.

31 Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ol y farnedigaeth hon.

32 Ond os gwasanaethwr neu wasanaeth-ferch a gornia yr ŷch; rhodded i'w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.

33 ¶ Ac os egyr gwr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ŷch, neu asyn;

34 Perchen y pydew a dâl am danynt: arian a dâl efe i'w perchennog; a'r anifail marw a fydd iddo yntau.

35 ¶ Ac os ŷch gwr a dery ŷch ei gymmydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a'r ŷch marw a rannant hefyd.

36 Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ŷch hwyliog o'r blaen, a'i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw yn eiddo ef.


PENNOD XXII.

Am ladrad. 5 Am golled. 7 Am sarhâd. 14 Am fenthyg. 16 Am anniweirdeb. 18 Am ddewiniaeth. 19 Am orwedd gyd âg anifail. 20Am ddelw-addoliaeth. 21 Am ddïeithriaid, a gweddwon, ac amddifaid. 25 Am usuriaeth. 26 Am wyston. 28 Am barch i swyddogion. 29 Am flaen-ffrwythau.

Os lladratta un ŷch neu ddafad, a'i ladd, neu ei werthu; taled bùm ŷch am ŷch, a phedair dafad am ddafad.

2 Os ceir lleidr yn torri , a'i daro fel y byddo farw; na choller gwaed am dano.

3 Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed am dano; efe a ddyly gwbl-dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.

4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

5 ¶ Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o'r hyn goreu yn ei faes ei hun, ac o'r hyn goreu yn ei winllan ei hun.

6 ¶ Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difâer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl-daled yr hwn a gynneuodd y tân.

7 Os rhydd un i'w gymmydog arian, neu ddodrefn i gadw, a'i ladratta o dŷ y gwr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:

8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynodd efe ei law at ddâ ei gymmydog.

9 Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau ger bron y barnwyr; a'r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn, taled i'w gymmydog yn ddwbl.

10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymmydog i gadw, a marw o hono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:

11 Bydded llw yr ARGLWYDD rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at ddâ ei gymmydog; a chymmered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

12 Ac os gan ladratta y lladrattêir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i'w berchennog.

13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.

14 ¶ Ond os benthyccia un gan ei gymmydog ddim, a'i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gyd âg ef, gan dalu taled.

15 Os ei berchennog fydd gyd âg ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

16 ¶ Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyd â hi; gan gynnysgaeddu cynnysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.

17 Os ei thad a lwyr-wrthyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol morynion.

18 ¶ Na chaffed hudoles fyw.

19 ¶ Llwyr-rodder i farwolaeth bob un a orweddo gyd âg anifail.

20 ¶ Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i'r ARGLWYDD yn unig.

21 ¶ Na orthrymma, ac na flina y dïeithr: canys dïeithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aipht.

22 ¶ Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23 Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf; mi a lwyr-wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24 A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a'ch plant yn amddifaid.

25 ¶ Os echwynni arian i'm pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel occrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

26 Os cymmeri ddilledyn dy gymmydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27 O herwydd hynny yn unig sydd i'w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrandaw; canys trugarog ydwyf fi.

28 ¶ Na chabla y swyddogion; ac na felldithia bennaeth dy bobl.

29 ¶ Nac oeda dalu y cyntaf o'th ffrwythau aeddfed, ac o'th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o'th feibion.

30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd â'i fam, a'r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31 ¶ A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwyttêwch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i'r ci.