ARGLWYDD â chwi, yn ol yr holl eiriau hyn.
9 ¶ Yna yr aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thri ugain o henuriaid Israel.
10 A gwelsant DDUW Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saphir, ac fel corph y nefoedd o ddisgleirder.
11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant DDUW, a bwyttasant ac yfasant.
12 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Tyred i fynu attaf i'r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i'w dysgu hwynt.
13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fynu i fynydd DUW.
14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni attoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyd â chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued attynt hwy.
15 A Moses a aeth i fynu i'r mynydd; a chwmmwl a orchuddiodd y mynydd.
16 A gogoniant yr ARGLWYDD a arhôdd ar fynydd Sinai, a'r cwmmwl a'i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.
17 A'r golwg ar ogoniant yr ARGLWYDD oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, y'ngolwg meibion Israel.
18 A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i'r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
PENNOD XXV.
Pa beth sydd raid i'r Israeliaid ei offrwm tu ag at wneuthur y babell. 10Dull yr arch. 17 Y drugareddfa a'r cerubiaid. 23 Y bwrdd a'i arlwy. 31 Y canhwyllbren a'i offer.
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.
3 A dyma yr offrwm a gymmerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,
4 A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,
5 A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
6 Olew i'r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i'r pêr-arogl-darth,
7 Meini onix, a meini i'w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.
8 A gwnant i mi gyssegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.
9 Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.
10 ¶ A gwnant arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
11 A gwisg hi âg aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.
12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.
13 A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur.
14 A gosod y trosolion trwy y modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.
15 Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symmuder hwynt oddi wrthi.
16 A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.
17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.
18 A gwna ddau gerub o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwrr y drugareddfa.
19 Un cerub a wnei yn y naill ben, a'r cerub arall yn y pen arall: o'r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y cerubiaid.
20 A bydded y cerubiaid yn lledu eu hesgyll i fynu, gan orchuddio y drugareddfa â'u hesgyll, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: tu a'r drugareddfa y bydd wynebau y cerubiaid.
21 A dod y drugareddfa i fynu ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.
22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau gerub y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchymynwyf wrthyt i feibion Israel.
23 ¶ A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
24 A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.
25 A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.
26 A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.
27 Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.
28 A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.
29 A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i phïolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.
30 A dod ar y bwrdd y bara dangos ger bron fy wyneb yn wastadol.
31 ¶ Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, a fyddant o'r un.
32 A bydd chwe chaingc yn dyfod allan o'i ystlysau; tair caingc o'r canhwyllbren o un tu, a thair caingc o'r canhwyllbren o'r tu arall.
33 Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gaingc arall: felly ar y chwe chaingc a fyddo yn dyfod allan o'r canhwyllbren.
34 Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a'u cnapiau a'u blodau.
35 A bydd cnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, yn ol y chwe chaingc a ddeuant o'r canhwyllbren.
36 Eu cnapiau a'u ceingciau a fyddant o'r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.
37 A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.
38 A bydded ei efeiliau a'i gafnau o aur coeth.
39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a'r holl lestri hyn.
40 Ond gwel wneuthur yn ol eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.