PENNOD XXVI.
Deg llen y tabernacl. 7 Yr un llen ar ddeg o flew geifr. 14 Y babell-len o grwyn hyrddod. 15 Byrddau y tabernacl, gyd â'u morteisiau a'u barrau. 31 Y wahanlen i'r arch. 36 Y gaeadlen i'r drws.
Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: yn gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.
2 Hŷd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i'r holl lenni.
3 Pùm llen a fyddant y'nglŷn bob un wrth ei gilydd; a phùm llen eraill a fyddant y'nglŷn wrth ei gilydd.
4 A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwrr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.
5 Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwrr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.
6 Gwna hefyd ddeg bach|a deugain o aur, a chydia â'r bach|au y llenni bob un wrth ei gilydd, fel y byddo yn un tabernacl.
7 ¶ A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell-len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.
8 Hŷd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a'r un mesur fydd i'r un llen ar ddeg.
9 A chydia bùm llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla'r chweched len ar gyfer wyneb y babell-len.
10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwrr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.
11 A gwna ddeg bach|a deugain o bres; a dod y bach|au yn y dolennau, a chylymma'r babell-len, fel y byddo yn un.
12 A'r gweddill a fyddo dros ben o lenni y babell-len, sef yr hanner llen weddill, a fydd y'ngweddill ar du cefn y tabernacl;
13 Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hŷd y babell-len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu accw, i'w orchuddio.
14 A gwna dô i'r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.
15 ¶ A gwna i'r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.
16 Deg cufydd fydd hŷd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.
17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer eu gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.
18 A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu dehau, tu a'r dehau.
19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du y gogledd, ugain ystyllen,
21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.
23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau y tabernacl, yn y ddau ystlys.
24 A byddant wedi eu cyssylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cyd-gydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.
25 A byddant yn wyth ystyllen, a'u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26 ¶ Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
27 A phùm barr i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod ystlys y tabernacl i'r ddau ystlys tu a'r gorllewin.
28 A'r barr canol y'nghanol yr ystyllod, a gyrhaedd o gwrr i gwrr.
29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd âg aur.
30 A chyfod y taberanacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31 ¶ A gwna wahanlen o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnei hi.
32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur, a'u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33 ¶ A dod y wahanlen wrth y bach|au, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a'r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr a'r cyssegr sancteiddiolaf.
34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.
35 A gosod y bwrdd o'r tu allan i'r wahanlen, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd ar y tu dehau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd.
36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith.
37 A gwna i'r gaeadlen bùm colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, a'u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bùm mortais bres.
PENNOD XXVII.
Allor y poeth-offrwm, a'i llestri. 9 Cynteddfa y tabernacl wedi ei gau â llenni ac â cholofnau. 18 Mesur y cynteddfa. 20Yr olew i'r lamp.
Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bùm cufydd o hŷd, a phùm cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a'i huchder o dri chufydd.
2 A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o'r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.
3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.
4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.
5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.
6 A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.
7 A dod ei throsolion trwy y modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i'w dwyn hi.
8 Gwna hi âg ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnant hi.
9 ¶ A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau, tu a'r dehau: llenni'r cynteddfa a fyddant lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd o hŷd, i un ystlys.
10 A'i hugain colofn, a'u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a'u cylchau, fydd o arian.