20 Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni'm gwel dyn, a byw.
21 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.
22 A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a'th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a'th orchuddiaf â'm llaw, nes i mi fyned heibio.
23 Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a'm tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.
PENNOD XXXIV.
Adnewyddu y llechau. 5 Cyhoeddi Enw yr Arglwydd. 8 Moses yn ymbil â Duw ar iddo fyned gyd â hwy. 10Duw yn gwneuthur cyfammod â hwynt, ac yn ail-adrodd rhai o orchymynion y llech gyntaf. 28 Moses, wedi bod ddeugain niwrnod yn y mynydd, yn dyfod i lawr â'r llechau. 29 Ei wyneb yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llen gudd arno.
ADYWEDODD yr ARGLWYDD wrth Moses, Nâdd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.
2 A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fynu yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.
3 Ond na ddeued neb i fynu gyd â thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4 ¶ Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchymynasai yr ARGLWYDD iddo; ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
5 A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd mewn cwmmwl, ac a safodd gyd âg ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr ARGLWYDD.
6 A'r ARGLWYDD a aeth heibio o'i flaen ef, ac a lefoddJEHOFAH,JEHOFAH, y DUW trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
7 Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.
8 A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua'r llawr, ac a addolodd;
9 Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, attolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wàr-galed yw,) a maddeu ein hanwiredd, a'n pechod, a chymmer ni yn etifeddiaeth i ti.
10 ¶ Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfammod y'ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a'r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr ARGLWYDD: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.
11 Cadw yr hyn a orchymynais i ti heddyw: wele, mi a yrraf allan o'th flaen di yr Amoriad, a'r Canaanead, a'r Hethiad, a'r Phereziad, yr Hefiad hefyd, a'r Jebusiad.
12 A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfammod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.
13 Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.
14 Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: oblegid yr ARGLWYDD, Eiddigus yw ei enw; DUW eiddigus yw efe;
15 Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i'w duwiau, a'th alw di, ac i tithau fwytta o'u haberth;
16 A chymmeryd o honot o'u merched i'th feibion; a phutteinio o'u merched ar ol eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di butteinio ar ol eu duwiau hwynt.
17 Na wna i ti dduwiau tawdd.
18 ¶ Cadw wyl y bara croyw: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o'r Aipht.
19 Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwrryw cyntaf o'th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.
20 Ond y cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni, torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedig o'th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
21 ¶ Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhauaf, y gorphwysi.
22 ¶ Cadw i ti hefyd wyl yr wythnosau, o flaen-ffrwyth y cynhauaf gwenith, a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23 ¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr ARGLWYDD DDUW, DUW ISRAEL.
24 Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o'th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr ARGLWYDD dy DDUW, dair gwaith yn y flwyddyn.
25 Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd; ac nac arhôed aberth gwyl y Pasc dros nos hyd y bore.
26 Dwg y gorau o flaen-ffrwyth dy dir i dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.
27 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.
28 Ac efe a fu yno gyd â'r ARGLWYDD ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau'r cyfammod, sef y deg gair.
29 A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o'r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.
30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesâu atto ef.
31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddychwelasant atto ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.
32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchymynodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD ym mynydd Sinai.
33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb.
34 A phan ddelai Moses ger bron yr ARGLWYDD i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchymynid iddo.
35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai lefaru wrth DDUW.