sidan glas, ac yn y porphor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y llïan main, yn waith cywraint.
4 Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwrr y cydiwyd hi.
5 A gwregys cywraint ei ephod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o'r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: megis y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
6 ¶ A hwy a weithiasant feini onix wedi eu gosod mewn boglynau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, âg enwau meibion Israel ynddynt.
7 A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchymynodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
8 ¶ Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr ephod; o aur, sidan glas, porphor hefyd, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd.
9 Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hŷd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.
10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, tophaz, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.
11 A'r ail res oedd, carbuncl, saphir, ac adamant.
12 A'r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.
13 A'r bedwaredd res ydoedd, beryl, onix, a jasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynau aur yn eu lleoedd.
14 A'r meini oedd yn ol enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ol y deuddeg llwyth.
15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.
16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwrr y ddwyfronneg.
17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.
18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant y'nglŷn yn y ddau foglyn; ac a'u gosodasant ar ysgwyddau yr ephod, o'r tu blaen.
19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a'u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod, o'r tu mewn.
20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a'u gosodasant ar ddau ystlys yr ephod, oddi tanodd tu a'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.
21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr ephod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattodid y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod, megis y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
22 ¶ Ac efe a wnaeth fantell yr ephod i gyd o sidan glas, yn wauadwaith.
23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.
24 A gwnaethant ar odrau y fantell bomgranadau, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, a llïan cyfrodedd.
25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre y fantell, o amgylch, ym mysg y pomgranadau,
26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre y fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
27 ¶ A hwy a wnaethant beisiau o lïan main, o wauadwaith, i Aaron ac i'w feibion.
28 A meitr o lïan main, a chapiau hardd o lïan main, a llodrau llïan o lïan main cyfrodedd,
29 A gwregys o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
30 ¶ Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur, ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl:SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.
31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i'w dal hi i fynu ar y meitr, fel y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
32 ¶ Felly y gorphennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses felly y gwnaethant.
33 ¶ Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a'i holl ddodrefn, ei bach|au, ei hystyllod, ei barrau, a'i cholofnau, a'i morteisiau,
34 A'r tô o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a'r tô o grwyn daearfoch, a'r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio;
35 Arch y dystiolaeth, a'i throsolion, a'r drugareddfa;
36 Y bwrdd hefyd, a'i holl lestri, a'r bara dangos;
37 Y canhwyllbren pur, a'i lampau, a'r lampau i'w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i'r goleuni;
38 A'r allor aur, ac olew yr enneiniad, a'r arogl-darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;
39 Yr allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40 Llenni y cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a'i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell cyfarfod;
41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu.
42 Yn ol yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.
43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a'i gwnaethant megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD, felly y gwnaethent: a Moses a'u bendithiodd hwynt.
40
Gorchymyn codi y tabernacl, 9 a'i enneinio; 13 a sancteiddio Aaron a'i feibion. 16 Moses yn gwneuthur fel y gorchymynasid iddo. 34 Cwmmwl yn gorchuddio y babell.
A'R ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.
3 A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia yr arch â'r wahanlen.
4 Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef.
5 Gosod hefyd allor aur yr arogl-darth ger bron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.