Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6 Dod hefyd allor y poeth-offrwm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.

7 Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a dod ynddi ddwfr.

8 A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.

9 A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a'r hyn oll sydd ynddo, a chyssegra ef a'i holl lestri; a sanctaidd fydd.

10 Enneinia hefyd allor y poeth-offrwm, a'i holl lestri; a'r allor a gyssegri: a hi a fydd yn allor sancteidd­iolaf.

11 Enneinia y noe a'i throed, a sanc­teiddia hi.

12 A dwg Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

13 A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac enneinia ef, a sanc­teiddia ef, i offeir­iadu i mi.

14 Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.

15 Ac enneinia hwynt, megis yr enneiniaist eu tad hwynt, i offeir­iadu i mi: felly bydd eu hennein­iad iddynt yn offeir­iadaeth dragy­wyddol, trwy eu cenhed­laethau.

16 Felly Moses a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchy­mynodd yr ARGLWYDD iddo; felly y gwnaeth efe.

17 ¶ Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y tabernacl.

18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fynu ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

19 Ac a ledodd y babell-len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell-len arni oddi arnodd; fel y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

20 ¶ Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiol­aeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugaredd­fa i fynu ar yr arch.

21 Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiol­aeth; megis y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

22 ¶ Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du y gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen.

23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, ger bron yr ARGLWYDD; fel y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

24 ¶ Ac efe a osododd y canhwyll-bren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du y dehau.

25 Ac efe a oleuodd y lampau ger bron yr ARGLWYDD; fel y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

26 ¶ Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.

27 Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth peraidd; megis y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

28 ¶ Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.

29 Ac efe a osododd allor y poeth-offrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrym­modd arni boeth-offrwm a bwyd-offrwm; fel y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

30 ¶ Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31 A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olchasant yno eu dwylaw a'u traed.

32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesâent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchy­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a'r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorphen­odd Moses y gwaith.

34 ¶ Yna cwmmwl a orchudd­iodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tabernacl.

35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmmwl yn aros arni, a gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi y tabernacl.

36 A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynai meibion Israel i'w holl deithiau.

37 Ac oni chyfodai y cwmmwl, yna ni chychwyn­ent hwy hyd y dydd y cyfodai.

38 Canys cwmmwl yr ARGLWYDD ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, y'ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.