Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wesleyaidd, i'w siarsio am ddyfod â Mr. Anwyl yno i dê; a hyny a fu. Yr oedd ef yno ychydig o flaen y gwŷr dyeithr: eisteddai yn y parlwr, yn edrych dros ei bregeth at yr hwyr. Daeth y teulu i mewn, a'r gwŷr dyeithr gyda hwynt; danghoswyd hwynt i'r parlwr, a gadawyd y tri phregethwr yn nghyd. Ymddanghosai y ddau hen weinidog fel pe buasai dirmyg wedi eu dal, ddarfod iddynt yn anffodus eistedd yn yr un ystafell a phregethwr Wesla.' Bu yno ddystawrwydd trwm a llwythog, a rhyw giledrych ar eu gilydd. O'r diwedd, dywedodd un o honynt, Yr wyf yn deall eich bod chwi yn arfer pregethu gyda'r Wesleys.' 'Ydwyf,' meddai Mr. Anwyl. Teyrnasai dystawrwydd wedi hyny. Mewn ychydig amser, sylwai y naill wrth y llall, 'Rhyw bobl ryfedd ydyw y Wesleys yma, yn gollwng rhyw fechgyn fel hyn i bregethu yr efengyl.' 'Ie,' meddai y llall; 'ac nid rhyfedd eu bod yn pregethu cyfeiliornadau i'r bobl, gan mai rhyw blantos fel hyn sydd ganddynt i bregethu.' Yn mhen ychydig, gofynodd un o honynt, beth oedd ei oed. Atebodd Mr. Anwyl, hyn a hyn. Rhyfedd iawn!' ebai y prif siaradwr, 'chwi ddylasech aros am flynyddau eto heb ddechreu ar y fath waith mawr; canys yr oedd Iesu Grist yn ddeg-ar-hugain oed pan ddechreuodd ar ei weinidogaeth gyhoeddus.' 'Gadewch i mi wybod,' ebai Mr. Anwyl, 'beth yw eich oedran chwi eich dau ?' 'O,' meddai un o honynt, 'yr wyf fi yn bump a thriugain, ac y mae fy nghyfaill yma rhyw beth yn agos.' 'Wel, felly,' meddai Mr. Anwyl, 'chwi ddylasech fod wedi eich croeshoelio er's mwy na deng mlynedd ar hugain.' 'O, ai e,' meddent hwythau. 'O ba le yr ydych chwi yn d'od, ŵr ieuanc?' 'Yr ydwyf yn d'od o'r North,' meddai yntau. 'Wel,' ebai un o honynt, 'chwi ellwch fyned i'r North yn eich ol mor gynted ag y mynoch.' 'O, mi wn i hyny, trwy drugaredd,' meddai Mr. Anwyl;' ni fûm i erioed yn un man eto nad allaf ddangos fy ngwyneb yno yr ail waith; mi wn hefyd nad all pob pregethwr i chwi wneuthur hyny.' Yna daeth gwraig y tŷ â'r tê i mewn, ac felly terfynwyd yr ymddyddan hynod hwn. Yr oedd Mr. Anwyl yn dàl a chryf o gorff, a threthodd ei alluoedd corfforol yn ddirfawr lawer gwaith. Er's deugain mlynedd yn ol, yr oedd y Cylchdeith-